Llwyddiant Bowlio Llambed

gan Alis Butten

Mae llwyddiant aelodau Clwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan yn parhau ar ôl penwythnos o wobrau yn rowndiau terfynol Cymdeithas Bowlio Merched Ceredigion. Yn dilyn llwyddiannau’r dynion yn ei rowndiau terfynol Sir a Chystadlaethau Agored.

Alis Butten, Anwen Butten, Sue Jones, Helen Randell a Dilwen Thomas.

Cafodd rowndiau terfynol merched Ceredigion eu cynnal yn Nhregaron sef Clwb y Llywydd eleni, Llinos Jones.

Daeth Dilwen Thomas i’r brig yn y Senglau Agored ar ôl curo aelod arall Clwb Llambed, Melanie Thomas.

Fe wnaeth mam a merch, Alis ac Anwen ennill yn y parau am yr ail dro, y tro cyntaf yn 2017. Yn gystadleuaeth y ‘rink’, daeth teitl Sir gyntaf i Sue Jones a Helen Randell wrth iddyn nhw ymuno efo Alis ac Anwen Butten mewn rownd derfynol yn erbyn Cei Newydd. Hefyd, fe wnaeth Alis Butten ennill y ‘Victrix Ludorum’ am y tro cyntaf.

Daeth llwyddiant i’r dynion yn ystod eu rowndiau terfynol nhw mis dwethaf efo bowlwyr Ceredigion yn cystadlu yn Aberaeron. Daeth Hari Butten i’r brig yng nghystadleuaeth Senglau dan 25 yn erbyn Iwan Davies o Gei Newydd. Ron Thomas, Ieuan Jones, Elfan James a Steve Entwistle aeth â theitl y ‘Senior Fours’ ac yna daeth mwy o lwyddiant i dri o’r pedwar, Ron, Elfan a Steve yn y ‘Senior Triples’.

Hari Butten, ‘Corporation Cup’

Yn gynharach yn y tymor fe gynhaliodd y Clwb Gystadleuaeth y Triawd Cymysg, sy’n digwydd yn flynyddol. Diolch i Philip a Dorian Thomas (Adeiladwyr) a Morgan & Davies am noddi’r penwythnos a wnaeth weld triawd teulu o Lambed yn ennill y darian; Tim, Anwen a Hari Butten. Enillwyr cystadleuaeth y plât oedd  Sandie West, Terry West a Peter Fleming ar ôl iddyn nhw guro Tregaron.

Yn dilyn llwyddiant Hari yn Nhriawdau Llambed aeth ymlaen i ennill cystadleuaeth Senglau Agored Aberystwyth. Mae’r Cwpan yn un sy’n denu cystadleuwyr o gwmpas canolbarth Cymru a chafodd ffeinal o frwydro caled yn erbyn Wil Jones, Tregaron.

Yn ystod yr wythnosau nesaf mae bowlio yn parhau efo rowndiau terfynol merched Cymru yn cael eu cynnal ym Merthyr Tydfil efo grŵp mawr o aelodau’r clwb yn chwarae: Dilwen Thomas, Lilian Davies, Morwen Thomas, Ceris Watkin, Carolyn James, Alis Butten, Melanie Thomas ac Anwen Butten. Fe fydd Hari yn cystadlu fel rhan o dîm dan 25 Cymru yn Essex ym mis Medi ac Alis yn mynd allan i Guernsey i chwarae yn y Gemau Ewropeaidd.

Elfan James, Ron Thomas, Steve Entwistle.