Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni wedi bod wrthi’n brysur yn ymarfer a pharatoi ar gyfer pinacl y flwyddyn yng nghalendr y Ffermwyr Ifanc: Rali’r Sir, â gafodd ei gynnal ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Fai – Do yn wir, fe wnaeth yr holl waith caled dalu ffordd i aelodau’r clwb eleni wrth i ni gipio’r darian fawr am ennill adran hyn y rali a dod yn bedwerydd yn yr adran Iau.
Roedd hi’n ddiwrnod bythgofiadwy i’r aelodau a’r arweinyddion gan mai ond unwaith mae’r clwb wedi ennill y darian hon cyn eleni a hynny deg mlynedd ar hugain yn union yn ôl i’r diwrnod yn 1989. Yn y seremoni wobrwyo cafodd Anwen Jones hefyd ei hanrydeddu yn Stocmon hyn y Flwyddyn ar ôl cystadlu yn y Diwrnod Gwaith Maes.
Mae’r Rali yn rhoi’r cyfle i aelodau o bob oedran i gystadlu mewn amryw o wahanol gystadlaethau megis barnu stoc, coginio, crefft, gwaith coed, adloniant y prif gylch, dawnsio, canu a thynnu’r gelyn. Yn ogystal â’r cystadlaethau yma rydym yn ffodus iawn yn Sir Gâr bod yna gyfle i’n haelodau ifanc i gystadlu mewn cystadlaethau mwy ysgafn megis codi pabell, gwneud Welshcakes, gwisgo arweinydd a gêm yr orsedd sy’n gyfle arbennig i aelodau newydd i gael blas o ddiwrnod Rali CFfI am y tro cyntaf.
Thema nifer o’r cystadlaethau eleni oedd ‘Hwiangerddi’, roedd Safle’r Sioe, Nantyci yn fwrlwm o gymeriadau lliwgar ac roedd llawer ohonynt yn aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni. Daeth llwyddiant ysgubol i’r clwb mewn sawl cystadleuaeth yn ystod y dydd ac mae gennym bedair cystadleuaeth yn mynd ymlaen i gynrychioli’r sir yn y Sioe Frenhinol.
Dyma restr o brif ganlyniadau CFfI Llanllwni:
Arddangosfa’r Prif Gylch – Hefin, Sara, Sioned, Aled, Dafydd, Betsan, Cathrin, Ifor, Owain, Jac – 1af
Tro ar Hwiangerdd – Hefin, Owain, Sioned a Siriol – 1af
Crefft – Betsan – 1af
Gwaith Coed Iau – Alwyn a Tomos – 1af
Gyrru Tractor – Anwen ac Aled – 2il
Gwaith Coed Hyn – Carwyn a Hefin – 2il
Barnu Merlod Mynydd Cymreig Adran A – Ifor ac Anwen – 2il
Barnu Gwartheg Duon Cymreig – Ifor ac Anwen – 2il
Coginio – Sara a Nia – 2il
Llyfr Lloffion – Siriol a Sioned – 2il
Canu Grwp Iau – Sioned H , Sioned B, Siriol, Mared, Ceris, Lowri – 2il
Tynnu’r Gelyn – Tîm Cymysg – 2il
Barnu Defaid Mule Cymreig – Anwen a Luned – 3ydd
Gwaith Coed Iau – Lewis a Iestyn – 3ydd
Eitem i Gyfleu Hwiangerdd – Jac ac Efan – 3ydd
Bu nifer o aelodau eraill yn cystadlu hefyd ac roedd marciau pob aelod wedi cyfrannu at ein buddugoliaeth ar ddiwedd y dydd. Hoffwn fel aelodau estyn diolch yn fawr iawn i’n harweinyddion ac i bawb a wnaeth helpu’r clwb i ymarfer a pharatoi ar gyfer diwrnod y Rali. Diolch hefyd i’r rhieni sydd o hyd yn barod i gludo’r aelodau i’r ymarferion.
Mae’n bryd erbyn hyn i ni gael seibiant o’r cystadlu a chael amser i ymlacio. Nos Wener yma byddwn yn cynnal ein Helfa Drysor â fydd yn ymadael o Neuadd yr Eglwys am 6:30 yh. Yna ar nos Wener y 24ain bydd ein Cinio Blynyddol yng Ngwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin i roi clo ar flwyddyn llwyddiannus dros ben i’r clwb.