Llyfrau Llafar Cymru ar gyfer pobl yn lleol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
www.llyfraullafarcymru.org.uk
www.llyfraullafarcymru.org.uk

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n methu darllen oherwydd nam ar y golwg?  Oes gennych ffrind neu aelod o’r teulu sydd wedi mynd yn ddall?  Ydych chi wedi clywed am Lyfrau Llafar Cymru?

Wel mae’n braf gallu cyhoeddi bod llyfrau Cymraeg a chyhoeddiadau eraill ar gael ar gryno ddisg am ddim i’r rhai sydd eu hangen nhw.

Mae gan Lyfrau Llafar Cymru wirfoddolwyr sy’n darllen y cyhoeddiadau tra’n cael eu recordio.  Wedyn postir y cryno ddisgiau i’r cartrefi.

Mae ganddynt lyfrau o bob math ar gryno ddisg yn cynnwys nofelau, straeon byrion, cofiannau, barddoniaeth, yn ogystal â phregethau a darlleniadau o’r Beibl.

Swyddogion Papur Bro Clonc yn cyflwyno siec i Rhian Evans Llyfrau Llafar Cymru.
Swyddogion Papur Bro Clonc yn cyflwyno siec i Rhian Evans Llyfrau Llafar Cymru.

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd wedi’u cofrestru’n rhannol ddall ac anfonir 4000 o deitlau allan bob blwyddyn.

Mae Papur Bro Clonc yn cael ei recordio hefyd bob mis, a sawl person yn yr ardal hon yn manteisio ar hynny er mwyn gwerthfawrogi cynnwys y papur bro er eu bod yn methu darllen.

Daw’r gwasanaeth hwn a chysur i lawer sydd wedi arfer â darllen.  Mae’n gweithio’n hawdd.  Gellir dewis o gatlog o deitlau.  Anfonir a dychwelir cryno ddisgiau yn rhad ac am ddim mewn waledi drwy’r post a gall gwrandawyr awgrymu teitlau i’w recordio hefyd.

Y cryno ddisgiau a ddaw drwy’r post.
Y cryno ddisgiau a ddaw drwy’r post.

Yn ddiweddar, cyflwynodd swyddogion Papur Bro Clonc rodd o £500.00 tuag at Lyfrau Llafar Cymru.  Daeth Rhian Evans, un o sylfaenwyr y gwasanaeth yn 1979 i annerch mynychwyr cyfarfod blynyddol Papur Bro Clonc.  Roedd y cyfraniad bychan hwn yn gydnabyddiaeth o’r ffaith bod y gymdeithas yn recordio’r papur bro ar gyfer pobl yr ardal.

Os y gwyddoch am rywun a fyddai’n dymuno derbyn y gwasanaeth gwerthfawr hwn ac i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a chopi o’r catlog o 2000 o deitlau, cysylltwch â Llyfrau Llafar Cymru, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB.  Ffôn: 01267 238225.