Manon am goncro cylch yr Arctig ar ôl concro canser

gan Guto Jones

Diwedd mis Mawrth bydd Manon Williams o Lambed yn teithio allan i Sweden i gwblhau her enfawr – croesi cylch yr Arctig.

Bydd Manon, sydd yn gweithio fel prentis rhaglywiaeth i’r Ardd Fotaneg, a naw arall yn dilyn llwybr penodol 100 cilomedr o hyd am 5 diwrnod er mwyn cwblhau’r sialens. Bydd y criw yn cerdded am tua 7 awr y dydd mewn tymheredd a all ddisgyn cyn ised â -50 gradd Celsius – tipyn o her.

Nid yw’n hawdd paratoi am sefyllfa o’r fath yng Nghymru, ond mae Manon wedi bod yn ymarfer yn galed drwy gerdded ar fryniau Brycheiniog, yn ogystal ag ymweld â’r gampfa mor aml â phosib er mwyn gwella ei ffitrwydd. Un sialens annisgwyl sydd yn ei herio ar hyn o bryd yw gorfod yfed llawer o ddŵr yn gyson, gan y bydd disgwyl iddi yfed 6 litr y diwrnod wrth gwblhau’r daith.

Pwrpas y daith yw codi arian at elusen Velindre, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae Velindre yn cefnogi cleifion canser a’u teuluoedd, ac yn elusen sydd yn agos iawn at galon Manon, gan iddi orfod delio â chanser pan oedd yn 5 mlwydd oed.

Y frwydr yma sydd wedi ei hysbrydoli i gwblhau sialens o’r fath. Dywedodd Manon “nid yw delio a churo canser yn beth hawdd i’w wneud. Mae’n sialens enfawr. Felly rwyf wedi penderfynu cwblhau sialens enfawr arall i godi arian, er mwyn dangos undod â rhai syn delio â’r salwch ar hyn o bryd”.

Pob lwc i Manon ar ei thaith ar hyd yr Arctig.