Marchnad y Ffermwyr ar ei ffordd yn ôl

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Fe fydd Marchnad y Ffermwyr yn ailddechrau yn Llanbed adeg y Pasg y flwyddyn nesa’ – os bydd cynlluniau newydd yn dwyn ffrwyth.

Ac os daw hi’n ôl, fe fydd Cyngor y Dref yn gofyn i Gyngor Ceredigion atal ffioedd parcio yn y dre’ ar y bore hwnnw.

Y gobaith yw cael o leia’ 12 stondin ar naill ai Stryd y Farchnad neu’r Stryd Fawr, gyda chymysgedd o gynhyrchwyr bwyd profiadol a rhai newydd ac un stondin am ddim ar gyfer achosion da.

Incwm ‘hyd at £19,000’

Fe daeth y manylion i’r amlwg mewn cyflwyniad i Gyngor y Dref gan ddwy o’r trefnwyr, y Cynghorydd Dinah Mullholland a Lucy Watson o gwmni bwyd organig Watson and Pratts sydd ar y Parc Busnes.

Dyma rai o’r manylion pellach:

Bydd yn digwydd bob wythnos gynta’ a thrydedd wythnos bob mis, am yn ail â Marchnad y Bobol.

  • Bydd y gost rhwng £15,000 ac £20,000 yn y flwyddyn gynta;,
  • Mae disgwyl incwm o rhwng £8200 ac £19,000 trwy incwm gan stondinwyr a nawdd.
  • Fydd dim stondinau crefft.
  • Oherwydd bod nifer o gaffis a siopau gwerthu bwyd cario mas yn y dre’, fydd dim stondinau bwyd twym.

‘Angen denu mwy o bobl’

Mae Cyngor y Dref wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i’r cynllun.

“Byddai’r farchnad yn tynnu pobl i mewn i’r dref,” meddai’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan wrth Clonc360.

“I gymharu â llefydd eraill, a llawer o ganol trefi, mae Llanbed yn gwneud yn dda, ond mae angen denu mwy o bobl, yn bendant.

“Dim ond cynllun yw hi ar hyn o bryd, ond byddai hi’n sicr yn denu pobol yma. Edrychwch ar y banciau: mae Llanbed yn ffodus fod yna 3 o hyd. Byddai’r Farchnad yn cael yr un effaith.”