Merch o Lanwnnen yn ymddangos am y tro cyntaf i Dîm Cymru

gan Carwen Richards

Ar ddydd Iau yr 31ain o Hydref, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu tîm o fenywod i wynebu Sbaen ar ddydd Sul y 3ydd o Dachwedd ym Madrid. Ymhlith yr enwau mae Gwenllian Jenkins, sy’n gweithio i Wersyll yr Urdd Llangrannog, a fydd yn ennill ei chap cyntaf fel blaenwraig yn y gêm gyntaf o gyfres o bedair yr Hydref hwn.

Y mae Gwenllian wedi dangos cryn ddiddordeb yn y gêm erioed, ond ni ddechreuodd hi chwarae rygbi tan 2016. Mewn cyfnod o dair mlynedd, mae hi wedi cynrychioli ei hysgol, Clwstwr Bae Ceredigion, Clwb Rygbi Cwins Caerfyrddin, Scarlets o dan 18 am dri thymor a charfan datblygiadol Cymru o dan 18 eleni. Er ei bod hi ond yn 18 mlwydd oed, yn ei misoedd cyntaf fel chwaraewraig hŷn mae hi’n mynd i ennill ei chap llawn cyntaf i Gymru, a hynny y penwythnos hwn.

Rhif 8 yw ei safle dewisol, ond mae Gwenllian wedi addasu i’w safle newydd fel prop pen tynn mewn mater o fisoedd. Yn ei thymor cyntaf gyda Menywod y Scarlets, enillodd hi dlws ‘Breakthrough Player of the Year’ a thlws Chwaraewraig y Chwaraewyr. Clust doeth a lwnc wybodaeth, a does dim amheuaeth bod Gwenllian wedi creu argraff ar hyfforddwyr y Scarlets a Chymru mewn cyfnod byr!

Gyda Chwpan Rygbi’r Byd i Fenywod yn cael ei gynnal yn 2021, mae cyfres pum gêm yr Hydref ar fin datblygu cryfder mewn dyfnder i Gymru. Dyma gyfle gwych i Gwenllian ar ddechrau ei chyfnod yn y crys coch. Dymunwn bob llwyddiant iddi a llongyfarchiadau ar ei hymdrechion hyd yma.