Mrs Lloyd Jones yn ymweld â Llambed a’r helynt dilynol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae yna lyfryn ar werth yn yr Amgueddfa Llambed, sy’n adrodd hanes ymweliad Mrs Margaret Lloyd George â’r dref ar yr 17eg o fis Fehefin, 1919, sef union gan mlynedd yn ôl. Ond mae’r ‘digwyddiad’ a ddilynodd yn dangos y tensiynau oedd yn codi yn rhengoedd y blaid Ryddfrydol yng Nghymru ar y pryd.

Roedd y Parchedig J.T Rhys, un a fagwyd yn nhref Llambed, yn Ysgrifennydd Personol i Mrs Lloyd George rhwng 1917–22, tra’r oedd hi a David Lloyd George yn rhif 10 Stryd Downing, ac mae’r hanes yma wedi ei gasglu gan ei ŵyr, sef Richard O’Brien sy’n byw yn Llundain. Dyma’r papur cyntaf o gyfres achlysurol y bwriedir eu cyhoeddi, a fydd yn canlbwyntio ar areithiau a draddodwyd gan Mrs Lloyd George, a chânt eu rhoddi yn  archifau Lloyd George yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yn ogystal â chyfeirio at ddigwyddiadau 1919, mae’r papur yn taflu golau newydd ar y tensiynau yn ystod yr 1860au, pan cosbwyd ffermwyr am wrthod pleidleisio i’w meistri tir Torïaidd. Cafwyd adroddiadau yn y wasg o ochr y Rhyddfrydwyr yn rhestru’r rhai a gafodd eu troi allan, tra fu’r wasg o ochr y Torïaid yn gwadu hynny. Roedd yna achos yn nheulu’r Rees /Rhys, ac mae’r dystiolaeth hynny yn cefnogi safbwynt y Rhyddfrydwyr.

Mae’r astudiaeth yma yn ddilyniant  i’r llyfryn a gyhoeddwyd y llynedd – ‘Hanes teulu o Lambed 1870–1971’, sy’n cwmpasu bywyd teulu’r Rees /Rhys o Lambed, a sy’n cyd-redeg â’r casgliad sy’n cael ei arddangos am yr ail flwyddyn yn yr Amguedfa.

Gan dynnu oddiwrth copiau o areithiau Mrs Lloyd George, o adroddiadau a ymddangosodd yn y papurau lleol ar y pryd, ac o lythyron ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae’r hanes am Mrs Lloyd George yn teithio o Aberystwyth i Lambed drwy Aberaeron yn tanio sylwadau gan rai o’r cyhoedd nad oedd Llambed wedi rhoddi iddi’r derbyniad a fyddai’n deilwng i wraig y Prif Weinidog.

Wrth edrych yn ôl, mae Richard yn gweld nad oedd y peth ddim ond rhyw hylibalw am ddim byd, ond eto i gyd yn dangos y tensiynau oedd yn codi rhwng cefnogwyr Lloyd George a chefnogwyr y ‘Wee Frees’, sef y rheini o blaid Asquith. Achosodd rwyg rhwng ei Ddad-cu a’i frodyr, Harry Rees o Lambed, sef Ysgrifennydd Y Gymdeithas Ryddfrydol yn Sir Aberteifi, a George Rees, Sylfaenydd a Golygydd y Welsh Gazette.

Mae’r ddau lyfryn ar werth yn Amgueddfa Llambed am £2 yr un, ac mae’r Amgueddfa yn ddiolchgar i Richard O’Brien ei fod yn cyflwyno’r holl arian i gefnogi’r Amgueddfa yn nhref ei hynafiaid.

Mae’r Amgueddfa ar agor Dydd Mawrth a Dydd Iau 10-4, a Gwener a Sadwrn 11–2.