Murlun Gŵyl Dewi Llanbed yn ei le

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae’r murlun bellach lan ar wal W. D. Lewis a’i fab yn Stryd y Bont a hoffai aelodau Pwyllgor Gŵyl Dewi ddiolch i’r noddwyr am eu cefnogaeth.

Cafodd y plant o bedair ysgol leol sef Bro Pedr, Carreg Hirfaen, Dyffryn Cledlyn a’r Dderi, brofiad amhrisiadwy wrth gyd-weithio gyda Rhiannon Roberts yr artist talentog gan greu gwaith trawiadol.

Mae’n olygfa liwgar i groesawu pobl i’r dref wrth deithio ar yr A482 o gyfeiriad Cwmann.  Gwelir adeiladau nodedig Llanbed yn y murlun fel y Llew Du, Sgwar Harford, Neuadd y Dref, hen adeilad y brifysgol, Eglwys Sant Pedr, Neuadd Fictoria, Clwb Rygbi a mwy.  Ceir mwy o luniau o’r plant yn creu yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc.

Maer y dref y Cyng Ann Bowen Morgan a fu’n cydlynnu’r prosiect a dywedodd “Diolch i bawb am eu cydweithrediad gyda’r murlun. Llongyfarchiadau ar furlun bendigedig.”

Diolch i Jewson’s am eu rhodd o bren. Bu Steve Edwards, Emyr Jones a Martin Owens yn ei osod ar y wal gyda chymorth Gwynfor a Dylan Lewis.

Y noddwyr oedd y Cyngor Tref, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, LAS, Morgan & Davies, W. D. Lewis a’i fab, Clwb Rotari, Clwb Cinio, Evans Bros ac Eryl Jones Yswiriant.

Bydd y Pwyllgor Gŵyl Dewi yn cynnal yr Orymdaith eleni ddydd Llun, 4ydd o Fawrth a bydd plant ysgolion dalgylch Bro Pedr yn ymuno â Chyngor y Dref, Côr Cwmann a chymdeithasau Llanbed.

Byddant yn cychwyn o gampws hŷn Ysgol Bro Pedr am 12.45. Bydd Emyr Lewis, cyn- chwaraewr rygbi dros Gymru, yn ymuno â ni a gobeithio y bydd ein haelodau seneddol yno hefyd gan ddibynnu ar Brexit ac ati!

Trefnir paned a phice bach yn Neuadd Fictoria ar derfyn yr Orymdaith a cheir canu gan Gôr Cwmann, eitemau gan yr ysgolion lleol a chyd-ganu hwyliog yn ogystal ag ambell anerchiad.  Croeso cynnws i bawb.