Newid cyfrwng y Cyfnod Sylfaen i’r Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr

gan Siwan Richards
Rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Pedr yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen.
Rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Pedr yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen.

Cyhoeddwyd Hysbysiad Statudol i newid cyfrwng Cyfarwyddyd yn y Cyfnod Sylfaen i’r Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llambed, ar ddydd Llun, 04 Chwefror 2019.

Prif nod y cynnig yw adeiladu ar y dilyniant ieithyddol cyfredol. Mae’r datblygiad yn golygu, erbyn Medi 2019, y byddai polisi addysg cyfrwng Cymraeg ar waith ar draws y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Bro Pedr. Mae hyn yn golygu y byddai’r disgyblion hynny a fyddai’n cael eu haddysg yn y dosbarth meithrin ym mis Medi 2019 yn parhau gyda’r dilyniant cyfrwng Cymraeg pan fyddant yn ddisgyblion ym mlwyddyn 1 ym mis Medi 2021.

Cynhaliodd Cyngor Sir Ceredigion gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn. Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad sy’n cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan ymgyngoreion, ymatebion y cynigydd ac ymateb llawn Estyn ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion (www.ceredigion.gov.uk)

Gall unrhyw un wrthwynebu’r cynnig tan 03 Mawrth 2019. Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion, Cyngor Sir Ceredigion, Gwasanaeth Ysgolion, 2il Lawr, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE, neu e-bsotio: adolygu.ysgolion@ceredigion.gov.uk

Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhelliad i gyhoeddi’r Hysbysiad Statudol yn ei gyfarfod ar 22 Ionawr 2019, ac os yn cael ei gytuno, mi fydd y cynnig yn cael ei weithredu ar 01 Medi 2019.