Oes angen tai newydd yn Llanbed?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Dymchwel hen Ysgol Ffynnonbedr. Llun gan Gillian Thomas.
Dymchwel hen Ysgol Ffynnonbedr. Llun gan Gillian Thomas.

Wrth i hen adeilad Ysgol Ffynnonbedr gael ei ddymchwel yr wythnos ddiwethaf, mae llawer o bobl yn gofyn oes angen tai newydd yn Llanbed?

Y bwriad yw codi 20 o dai ar safle’r hen ysgol, ac mae cynlluniau hefyd i godi 90 o dai newydd ger Maes-y-deri.

Cred rhai bod angen tai fforddiadwy yn Llanbed a bydd y ddau gynllun hwn yn dod â gwaith adeiladu hanfodol i grefftwyr lleol.  Ond ar y llaw arall gwêl eraill hyn fel datblygiad diangen gan gwmnioedd o bant.

Safle Ysgol Ffynnonbedr. Llun gan Shirin Thomas.
Safle Ysgol Ffynnonbedr. Llun gan Shirin Thomas.

Gwrthwynebwyd y cynllun i godi tai ar safle Ffynnonbedr yn wreiddiol, ond llwyddwyd drwy apêl i fynd â’r maen i’w wal.

Wrth weld adeiladau’r hen ysgol yn diflannu o un i un cafwyd nifer o sylwadau ar wefannau cymdeithasol fel “Mae hyn yn drist.” “Trist iawn i weld yr hen Ysgol Ffynnonbedr yn dod i lawr, atgofion hapus yn y lle ma.” a “Trist iawn. Chwalu Ysgol Ffynnonbedr #hanes #atgofion #yraddysggorau”

Mae’r bwriad i godi 90 o dai ger Maes-y-deri yn codi ofn ar nifer o breswylwyr leol.  Bydd y tai hyn yn ffinio ardaloedd Bryn Steffan, Penbryn, Maes-y-deri a Gwêl-y-Creuddyn gan greu mynedfa i’r safle o Maes-y-deri a Bryn Steffan.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus nos Iau 7fed Chwefror yn Neuadd Fictoria Llanbed er mwyn trafod y cynllun hwn.  Bydd y cyfarfod yn dechrau am 7 o’r gloch.