Oriau Agor Banc Bwyd Llanbed

gan Julia Lim

Bydd  Banc Bwyd Llanbed ar agor fel arfer 9-5 dydd Llun, Mercher a Gwener, hyd at ac yn cynnwys dydd Gwener 20ain o Ragfyr ac o ddydd Llun 3fed o Ionawr.

Dros wythnosau’r Nadolig a Chalan byddwn ni ar agor:
Dydd Llun    23/12    1-5
Dydd Mawrth    24/12    10-2
Dydd Gwener    27/12    9-5
Dydd Llun    30/12      9-5
Dydd Gwener    3/1      9-5

Bydd y rhan fwya o’r asientaeth ar gau rhwng Nadolig  a Chalan, ond bydd Camfan ar agor pob dydd heblaw 25/12, 26/12, 31/12, 1/1. Gallech chi ffonio nhw ar 01570 421190, neu alw hebio, 9.30-3.30 (9.30-2.00 noswyl Nadolig).

Mae Banc Bwyd Llanbed yn ateb anghenion bwyd pobl sy heb fwyd oherwydd sefyllfa argyfyngus. Mae’r Banc Bwyd yma i ddiwallu anghenion brys pobl Llanbedr Pont Steffan a’r ardal, ac nid i roi cefnogaeth hir dymor. Darparwn ddigon o fwyd am dri phryd dros dri diwrnod: mae’r rhan fwya yn fwyd tun a sych, gydag ychydig o fwyd ffres.  Sefydlwyd y Banc Bwyd yn 2012 fel rhan o dystiolaeth Cristnogol yr eglwysi a’r capeli yn Llanbedr Pont Steffan. Rydyn ni’n gwasanaethu pobl o bob ffydd a’r rhai sy heb ffydd, ac rydyn ni’n croesawu gwirddofolwyr o bob rhan o’n cymuned.

Dyma restr o rai asiantaethau lleol, a all eich cyfeirio atom. Gallan nhw hefyd eich helpu chi i ddatrys rhesymau dros eich cyfeirio atom.

I deuluoedd ifanc: Tîm Teulu (01545 572649), HomeStart (01570 218546), Canolfan Teuluol Llambed (01570 423 847), Tŷ’r Teulu Llanybydder (01570 481617), Ymwelwyr Iechyd (01570 422262)
Eich Cymdeithas Tai: Tai Ceredigion, Tai Wales&West or Tai Canolbarth Cymru. West Wales Lettings.
Eraill: Barod Cymru (01970 626470/ 01267 231634), Cyngor ar Bopeth (01239 621974), Canolfan Byd Gwaith Caerfyrrdin, Camfan (01570 421190), Cymdeithas Gofal (01970 617176).
Opsiynau Tai Ceredigion & Carmarthen, Tîm Cymunedol Ceredigion ar gyfer Anableddau Dysgu, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Ceredigion, MIND, Gofal a Thrwsio, RABI Cymru (0808 281 9490/ 01267 223744).