Pnawn Pinc y merched

gan leannejames

Cynhaliwyd ‘Pnawn Pinc’ yng Nghlwb Rygbi Llambed ar Ddydd Sadwrn y 19eg o Hydref i godi arian tuag at Uned Cancr y Fron, Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli.

Penderfynwyd mynd ati i godi arian at yr achos yma i ddiolch am y gwasanaeth lleol sy’n cael ei gynnig i fenywod yn aml ond yn enwedig bob tair blynedd pan mae unedau cancr Tenovous yn mynd o gwmpas yn cynnig profion am ddim i fenywod. Mae’r cymorth dilynnol o’r unedau yma yn cael ei gwneud yn Ysbyty Tywysog Phillip, felly penderfynwyd codi’r arian i ddiolch am y gwasanaeth.

Bu Glenda, Margaret, Helen, Meryl, Leanne a Gemma wrthi am y misoedd diwethaf yn trefnu’r digwyddiad gyda llawer o’r trefnu yn cynnwys gofyn am gymorth wrth fusnesau lleol.

Derbyniwyd cefnogaeth anhygoel gan fusnesau lleol gyda nifer yn rhoi eitemau tuag at yr ocsiwn a raffl, eraill yn cynnig eitemau i yfed a bwyta ar y dydd, rhai yn cynnig eitemau i addurno’r ’stafell a nifer yn rhoi symiau ariannol hael.

Ar Ddydd Sadwrn y 19eg, daeth grŵp o 100 o ferched lleol at ei gilydd yn y clwb rygbi i fwynhau prynhawn o sbort a sbri lle codwyd swm anhygoel dros £5,000 tuag at yr achos teilwng yma. Cafodd y merched brynhawn i’w gofio yn chwarae nifer o gemau gwahanol, cefnogi Llambed wrth iddynt ennill y rygbi a bwyta c yfed cyn mynd yn erbyn ei gilydd yn yr ocsiwn.

Hoffem ddiolch i bawb am eu cymorth a chefnogaeth er mwyn sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiant.