Polisi Preifatrwydd Papur Bro Clonc

Sut mae swyddogion Clonc yn defnyddio data.

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Gofynnir i ohebwyr, cyfrannwyr, clybiau, grwpiau ac ysgolion ddatgan eu bod wedi sicrhau caniatâd bob unigolyn i gynnwys gwybodaeth amdanynt neu luniau ohonynt wrth ddanfon pob adroddiad i Clonc a wedi sicrhau caniatâd rhiant neu warcheidwad pob plentyn dan 13.

Rydym wedi cyhoeddi polisi preifatrwydd drafft, a gellir darllen y polisi hwnnw yma:

Polisi Preifatrwydd Papur Bro Clonc DIV

Daeth Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) i rym ar 25 Mai 2018, gan ddisodli’r Ddeddf Diogelu Data (1998).  Yn unol â thelerau’r GDPR newydd, mae angen hysbysiad preifatrwydd i esbonio i’r cyhoedd pa ddata personol sy’n cael ei gadw amdanynt, sut y caiff ei gasglu, ei brosesu a phwy sydd âmynediad iddo.