Postmon lleol yr arwr lleol!

gan SionedDavies

Ar y 10fed o Fai fe wnaeth y dyn post poblogaidd, Barry Davies o Lanbed, ddechrau ar sialens enfawr sef cerdded ar hyd llwybr yr arfordir o Gaer i Gas-gwent mewn llai na 33 diwrnod.

Roedd y daith dros 870 o filltiroedd. Penderfynodd Barry i gwblhau’r sialens enfawr yma gan ei fod yn dathlu pen-blwydd arbennig ar ddechrau mis Mai.

Roedd am i’r holl arian fynd tuag at ymchwil Cancr gan ei fod wedi colli ei dad i frwydr cancr nôl yn Medi 2015.

 

Ar gyfartaledd cerddodd Barry tua 30 milltir y dydd. Cerddodd trwy amrywiaeth o dywydd, haul, glaw, mellt, taranau a chesair ond fe wnaeth sicrhau bod un troed yn mynd o flaen y llall o hyd bob dydd.

Yn ystod y daith bu Barry yn cerdded ar amryw o wahanol dirwedd o dywod i gaeau, o greigiau i bwdel.

Ar yr 8fed o Fehefin fe gyrhaeddodd Barry Cas-gwent gyda chriw o bobl yn ei groesawu i gwblhau’r her ar ddiwrnod 30! Camp a hanner yn wir! Roedd y sialens nid yn unig yn sialens corfforol ond hefyd yn un feddyliol wrth i Barry wynebu sialensau mawr yn ystod ei siwrnau o amgylch y wlad.

Yn amlwg yr hyn a frifodd Barry mwyaf oedd ei draed wrth iddynt fod yn boennus iawn yn aml gyda phothellu amrywiol ar bob rhan o’i draed.

Yr hyn y mae Barry wedi ei drysori yw’r olygfa anhygoel sydd ganddom mor agos i gartref.

Targed Barry ar ddechrau’r sialens oedd codi swm o £1,500 ond erbyn hyn mae ef wedi casglu dros £7,000 ac mae’r arian o hyd dal i lifo i mewn.

Dymuna Barry ddiolch o waelod calon i’w deulu a’u ffrindiau sydd wedi bod wrth ei ochr dros y misoedd diwethaf gyda’r holl drefnu, cefnogaeth a’r cwmni i gerdded. Mae tudalen ‘Just Giving’ Barry dal ar agor felly os hoffwch roi cyfraniad tuag at achos sydd mor agos at ef ei hun ac at sawl deulu arall dilynwch y linc yma neu mae yna daflenni noddi ar gael gan aelodau’r teulu.