Pypedau’n dod â gwobrau!

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Pypedau oedd yn arwain y ffordd wrth i ysgolion cynradd ardal Clonc gipio nifer o wobrau crefft yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Fe ddaeth cyfanswm o dair gwobr am bypedau i Ysgol y Dderi, Llangybi, ac fe ddaeth gwobr am greu model o dref i Ysgol Dyffryn Cledlyn.

Mae’r lluniau’n dangos:

Tri phwped gan Grŵp Erin, Phoebe a Lois o Ysgol y Dderi – y cyntaf yn y gystadleuaeth bypedau i Flynddoedd 3 a 4. (y prif lun)

Day byped o wenyn
Gwaith Grwp Alana, Kaci a Ffion, Ysgol y Dderi

Cyflawnodd Grŵp Alana, Kaci a Ffion yr un gamp ym mlynyddoedd 5 a 6 – nhw oedd wedi creu’r pypedau o’r gwenyn.

Model o dref yn dangos adeilad uchel, ffordd a pharc
Gwaith Madi Potter, Ysgol Dyffryn Cledlyn

Madi Poter, o Ysgol Dyffryn Cledlyn a ddaeth yn ail gyda gwaith 3D i Flynyddoedd 3 a 6 yn y categori Anghenion Dysgu Ychwanegol Dwys.

  • Roedd yna wobr gyntaf hefyd i Rhydian Quan o Ysgol y Dderi am ennill ar y pyped ar gyfer Blwyddyn 5 a 6.

1 sylw

Lilian Jones
Lilian Jones

Llongyfarchiadau i ddisgyblion y Dderi ar ennill pump gwobr gyntaf a thri ail wobr yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Tipyn o gamp.

Mae’r sylwadau wedi cau.