Rhedwyr Sarn Helen – rasys mis Chwefror

gan Daniel Johnson
Tîm Sarn Helen yng Nghrymych

Y mae Chwefror yn fis cymharol dawel i’r rhedwyr yn ardal Llanbed ond y mae digon o gystadlaethau ar gael i’r rhai sy’n barod i deithio, a bu aelodau Clwb Sarn Helen yn rhedeg mewn pedwar hanner marathon yn ystod y mis. 

Aeth pedwar aelod i redeg Hanner Marathon Llanelli ar hyd Llwybr yr Arfordir ar y 10fed o’r mis. Er i’r gwynt osod tipyn o rwystr ar adegau llwyddodd Ken Caulkett i ddod yn 50fed allan o 1500 o redwyr mewn 84 munud a 27 eiliad gyda Nigel Davies yn dilyn (88.52). Dangoswyd dyfalbarhad hefyd gan Nicola Williams (112.15) a Rebecca Doswell (131.51) i orffen y cwrs deniadol hwn o 13 milltir, 192 llathen a 6 modfedd ar hyd y lan.

Nid oedd rhaid teithio’n bell i Hanner Marathon Tregaron ar yr 17eg o’r mis ond er hynny yr oedd presenoldeb 26 o aelodau’r clwb ymhlith y 125 o redwyr yn cynrychioli ymdrech i’w chanmol. Am unwaith ni orffennodd yr un ohonynt yn y deg uchaf wrth i Richard Copp o Abertawe ennill mewn 77 munud a 19 eiliad a Simon Hall yn y 12fed safle (86.24) ddaeth yr agosaf i wneud hynny.  Glyn Price (3ydd ddyn dros 50 mewn 88.29) Eleri Rivers (3edd fenyw dros 35 mewn 104.39) a Delyth Crimes (3edd fenyw dros 45) oedd yr unig rai i gyrraedd y gwobrau ond cafwyd cystadlu tyn rhwng Dan Hooper (18fed mewn 89.43) Meic Davies (19eg mewn 90.24) Carwyn Davies (22ain mewn 90.41) Mark Rivers (23ain mewn 90.43) George Eadon (25ain mewn 91.52) a Kevin Hughes (27ain mewn 93.33.) Yn bellach yn ôl yr oedd Steven Holmes (101.27) yn parhau gyda’i adferiad i ffitrwydd ychydig o flaen Aled Morgan (110.51) a chlwstwr o redwyr yn cynnwys Mick Taylor (111.10) Mitchell Readwin (111. 18) a Sian Roberts Jones (111.41.) Er bod y ras yn dilyn yr hen reilffordd o Ystrad Meurig yn ôl i Dregaron y mae dringfeydd y 7 milltir cyntaf trwy Swyddffynnon yn ei wneud yn gwrs anodd, a llongyfarchiadau hefyd i’r aelodau eraill a’i gwblhaodd  –  Tim Davies, Joanna Rosiak, Owen McConochie, Nicola Williams, Heather Hughes, Andrew ac Amy Edgell, Elish Jones, Jane Holmes ac Emma Gray.

Ras Llyn Efyrnwy

Y trydydd hanner marathon oedd hwnnw yn Wrecsam ar yr un dydd. Allan o 2,403 o redwyr daeth Caryl Wyn Davies yn 25ain ac yn 8fed yn ei dosbarth mewn 89 munud a 37 eiliad  – tipyn yn gynt na’i hamser hi yno’r llynedd. Gyda hi yr oedd Liz Pugh a orffennodd yn 35ain yn ei dosbarth mewn record bersonol o 125.49.

Eto ar yr un dyddiad dros yr un pellter, ond dros dirwedd dra wahanol a llawer anoddach, rhedodd Alexander Price ras lwybr yng Nghyfylchi trwy fforest Afan ger Pont-rhyd-y-fen gan wneud yn arbennig o dda. Daeth yn 60ain allan o 700 ac yn 16eg yn nosbarth y dynion dros 35 oed mewn 105 munud a 6 eiliad. Os yw ambell un o aelodau hŷn y clwb yn gorfod arafu ei gam, dyma brawf calonogol bod aelodau ifanc addawol yn dal i ymddangos.