gan
Dylan Lewis
Wyneb cyfarwydd i bobl Llanbed sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.
Bu Rhiannon Ifans yn Gymrawd Tucker ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant a bu’n gyfrifol am drefnu Darlithoedd Blynyddol Cliff Tucker yn Llanbed am flynyddoedd yn ogystal â’r gwasanaeth Plygain yn y brifysgol.
Ysgrifennodd Nofel Ewropeaidd a dderbyniodd ganmoliaeth uchel y beirniaid Mererid Hopwood, Aled Islwyn a Alun Cob. Roedd y tri yn unfrydol hefyd mai ‘Raphael’, sef Rhiannon Ifans oedd yn haeddu’r fedal.
Y dasg eleni yn Llanrwst oedd ysgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Cylchoedd’.
Mae Rhiannon yn byw ym Mhenrhyncoch. Llongyfarchiadau Llanbed llawen iawn iddi.