Sa i’n cael lot o rows, fi’n angel!

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dyna oedd ymateb Kiera Cashel o Lanybydder pan ofynnwyd iddi “Beth oedd y peth ofnadwy a wnest di i gael row gan rywun?” – “Sa i’n cael lot o rows, fi’n angel!”

Mae Kiera yn Syrfewr Coed i Wasanaethau Coed Llanbed, a hi sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.

Ar y llaw arall dywed ei bod fel Asyn “oherwydd rwyf mor styfnig.”  Gallwch ddod i’w hadnabod yn eitha da wrth ddarllen y golofn arbennig hon yn rhifyn mis Mai Clonc.

Yr eiliad balchaf iddi’n broffesiynol oedd “Pasio prawf chainsaw” a’r cyngor gorau a roddwyd iddi oedd “Safia dy arian.  Hala arian dy rieni.”  Tipyn o gymeriad felly.

Ond sut fyddai hi’n gwario £10,000 mewn awr?  Pryd llefodd hi ddiwethaf?  Beth oedd y celwydd diwethaf iddi ddweud? A beth oedd yr eiliad a newidiodd ei bywyd?  Cewch yr atebion i gyda ym Mhapur Bro Clonc.  Mae’n werth ei brynu.