Sbort a Sbri a Stwffio

gan Carys Lloyd-Jones
Stwffio Indiaidd yn Shapla.
Stwffio Indiaidd yn Shapla.

Does dim byd gwell na phryd o fwyd a chlonc pa bynnag oedran y’ch chi! Dyna dwi’n meddwl mae ‘Clwb Stwffio’ Pwyllgor Apêl Ceredigion 2020 Tref Llambed yn gynnig i’r gymuned leol.

Mae’r clybiau stwffio wedi tynnu cynulleidfa mor ifanc â blwydd oed hyd at y rhai mwyaf aeddfed yn ein plith. Mae Mrs Lewis, Tanlan wedi mynychu pob un o’r clybiau stwffio a hithau yn ei nawdegau!

Mae pobl yn gweld y ‘Clwb Stwffio’ yn gyfle i gymdeithasu, cael pryd o fwyd blasus a chefnogi Eisteddfod Ceredigion 2020 yr un pryd.

Cynhaliwyd y ‘Clwb Stwffio’ cyntaf ar Chwefror y 5ed yn ‘Shapla Tandoori’, gyda phryd o fwyd Indiaidd heb ei ail yn ein disgwyl ni. Gwerthwyd dros 70 o docynnau a chodwyd £500 o elw tuag at yr apêl.

Stwffio Tsieiniaidd yn Ling Di Long.
Stwffio Tsieiniaidd yn Ling Di Long.

Yna aeth y ‘Clwb Stwffio’ i ‘Ling Di Long’ bwyty Tsieiniaidd poblogaidd Llambed ac roedd y lle yn llawn dop. Roedd y croeso Tsieiniaidd gan Jo a’r criw yn hyfryd. Cafwyd pryd o fwyd arbennig a’r cymdeithasu a’r cloncan yn parhau. Elw o £240 ar y noson a diolch yn fawr iawn i Jo Jo am ei chyfraniad unigryw i’r raffl.

Ymlaen a ni at ddiwedd mis Mai at leoliad ein ‘Clwb Stwffio’ nesaf yng nghwmni teulu a staff yn nghaffi Mark Lane. Dros 30 o frecwasatau wedi cael eu paratoi a’r cwbwl yn drefnus ac yn flasus. Roedd y caffi yn fwrlwm o glonc ac o sbort. Pleser o’r mwyaf oedd cael cwmni ambell wyneb cyfarwydd, Elin Jones, Llywydd y Cynulliad a Gillian Elisa, actores, cantores a digrifwriag o fri. Merched lleol yn cefnogi apêl Tref Llambed. Ynghanol y bwrlwm codwyd £310 at yr apêl.

Staff a theulu Mark Lane adeg y Brecwast Stwffio.
Staff a theulu Mark Lane adeg y Brecwast Stwffio.

Felly, hyd yn hyn, mae’r tri achlysur wedi codi dros £1,000 o bunnoedd at yr apêl.

Teimlaf bod y ‘Clwb Stwffio’ yn llwyddiant, yn gyfle i bobl yr ardal ddod at ei gilydd, i fwynhau ac i gefnogi’r Brifwyl.

Diolch i bawb sydd wedi mynychu’r ‘Clwb Stwffio’, am gyfraniadau ariannol hael ac i’r raffl, i’r busnesau lleol sydd wedi gwerthu’r tocynnau gan gynnwys  Siop Roberts, Smotyn Du, Dawn’s Emporium a Mark Lane. Diolch hefyd am y croeso Indiaidd, Tsieiniadd a Chymreig a gafwyd yn y tri lleoliad.

Fe fydd y ‘Clwb Stwffio’ nesaf ym mis Awst yng nghwmni Delyth ‘Y Pantri’ (dyddiad i’w gadarnhau).