Sefydlu gweinidog newydd

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Ddydd Sadwrn yma, 12 Ionawr, bydd oedfaon i sefydlu’r Parchedig Athro Densil Morgan yn weinidog ar chwech o eglwysi’r Bedyddwyr yn y Cylch – Aberduar Llanybydder; Bethel Silian; Brynhafod Gors-goch; Caersalem Parc-y-rhos; Noddfa Llanbedr Pont Steffan; a Seion Cwrtnewydd.

Cynhelir oedfa sefydlu yn Aberduar am 1.30 y prynhawn. Bydd te i ddilyn yn y festri. Ac am 5.30 yr hwyr bydd oedfa bregethu yn Noddfa, Llanbedr Pont Steffan. Croeso cynnes i chi ymuno â ni yn y gwasanaethau. Dyma raglen yn cynnwys trefn y diwrnod.

Mae Densil Morgan wedi dechrau ar ei waith yn weinidog yn y Cylch ers 1 Hydref 2018, yn olynu’r Parchedig Jill Tomos. Nid yw Densil yn ddieithr i ni yn yr ardal fodd bynnag, gan ei fod e ac Ann wedi setlo yn Llambed oddi ar 2010; mae’r ddau yn aelodau gweithgar o eglwys Noddfa ac yn cyfrannu’n helaeth at weithgarwch yn y gymuned.

Dymunwn fendith ar y paratoadau a’r trefniadau, dymunwn fendith ar y cyfarfodydd ddydd Sadwrn, a dymunwn fendith ar Densil a’i weinidogaeth.