Sêr rygbi ifanc lleol ar y ffordd i Awstralia

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Jac Williams o Lanbed a Carwyn Rosser o Drefach sydd ill dau yn chwaraewyr i Dîm Ieuenctid Clwb Rygbi Llanbed wedi cael yr anrhydedd diweddar o gael eu dewis i ymuno â thaith BrisVegas 7s Stars Rugby 7s i Brisbane, Awstralia, cyfle rhy dda i’w golli.

Mae’r ddau chwaraewr wedi bod yn chwaraewyr ymroddedig i Glwb Rygbi Llanbed ers eu blynyddoedd cynnar, gan symud ymlaen i gael eu dewis ar gyfer carfan dan 15 oed Sir Ceredigion ar gyfer tymor 2017/2018, ac ar ddiwedd y tymor chwarae yn Stadiwm Principality yn Rownd Derfynol Lawrence Miller Bowl ar 1 Mai 2018 a dod yn ail i Ysgolion Cwm Rhymni.

Yn dilyn y llwyddiant hwn, dewiswyd y ddau ar gyfer Sgwad Dan 16 Gorllewin Scarlets, a Jac Williams yn symud ymlaen i garfan gyfun dan 16 y Scarlets.

Sefydlwyd Stars Rugby 7s yn 2014 gyda’r genhadaeth o ddatblygu chwaraewyr rygbi 7s mewn lleoliadau twrnamaint elitaidd. Mae’r Sêr yn ceisio creu cyfleoedd i athletwyr rygbi 7s ffynnu trwy gystadleuaeth mewn sawl cyfarfod a thwrnameintiau perfformiad uchel bob blwyddyn.

Mae Taith y Sêr yn cychwyn ddydd Gwener 25 Hydref, gan deithio o Heathrow i Brisbane. Mae’r pecyn i gyd yn gynhwysol gyda’u llety, prydau bwyd, sesiynau hyfforddi / campfa. Chwareir eu gemau ar Gaeau Gêm BrisVegas7s, Toowong, Brisbane.

Mae’n anodd iawn codi arian ar gyfer y daith hon ar fyr rybudd, ac apelir ar fusnesau lleol yn y gymuned a chefnogwyr Clwb Rygbi Llanbed am gefnogaeth ac unrhyw nawdd i’w helpu i fynychu’r daith ac i roi’r Clwb Rygbi ar y map byd-eang.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â naill ai Myles Rosser 07980 782 523 neu Tracey Williams 07880 595779.