Mae Siân Elin Williams o Bencarreg wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth ‘Meithrin Talent – Talent Meithrin’ ac mi fydd yn perfformio yng Nghaerdydd yn Eisteddfod yr Urdd wythnos nesaf.
Yn ystod Eisteddfod yr Urdd ar safle Sioe Llanelwedd y llynedd fe lansiodd Mudiad Meithrin a’r Urdd gystadleuaeth newydd ar y cyd gyda’r nod o ddod o hyd i dalent newydd i ddiddanu plant ifanc rhwng 2-4 oed a’u rhieni.
Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:
“Roeddem fel Mudiad yn awyddus i ddod o hyd i dalent newydd i ddiddanu plant ifanc iawn, yn y gobaith o ddod o hyd i dalentau newydd fyddai’n addas i gynnal Taith Gŵyl Dewin a Doti (sy’n daith tair wythnos o hyd) yn y dyfodol. Felly dyma greu partneriaeth gyda’r Urdd i gynnal y gystadleuaeth yma ar y cyd.”
Mae cystadleuaeth ‘Meithrin Talent – Talent Meithrin’ yn agored i aelodau’r Urdd rhwng 18-24 oed. Fe agorwyd y broses gystadlu fis Medi y llynedd hyd ddiwedd Rhagfyr gyda’r ymgeiswyr yn llenwi ffurflen gais, anfon portffolio yn amlinellu eu profiad a chreu clip fideo 5 munud o hyd i ddweud ychydig am eu hunain ac i ddangos eu dawn perfformio.
Y ddwy ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw Siân Elin a Lois Glain Postle o Fodedern, Môn. Ddiwedd Ebrill fe dderbyniodd y ddwy ddiwrnod o hyfforddiant a mentora yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Martyn Geraint sy’n hen law ar berfformio i blant ifanc.
Meddai Siân Elin:
“Rwy’n edrych ymlaen i ddiddanu plant yn yr Eisteddfod ac mae’n fraint i gyrraedd y ffeinal. Pa bynnag ffordd yr eith hi Ddydd Sadwrn, rwy’n falch iawn o’r cyfle mae’r Urdd a’r Mudiad Meithrin wedi roi i mi gan fy mod wrth fy modd yn diddanu.”
Diwedd y daith i’r ddwy fydd y cyfle i berfformio mewn amryfal leoliadau ar hyd maes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019 ddydd Sadwrn 1 Mehefin, gyda’r panel beirniaid yn eu beirniadu ar safon eu perfformiad a’u dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa, a chyfle i berfformio mewn un sioe ar daith Gŵyl Dewin a Doti fydd yn cael ei chynnal o 10 – 29 Mehefin eleni.
Meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd:
“Dechrau’r daith perfformio yw Eisteddfod yr Urdd i lawer ac felly rydym yn falch iawn i allu cynnal y gystadleuaeth newydd hon yn yr Eisteddfod eleni. Dyma gyfle gwych i gystadleuwyr yr Urdd gael ehangu ar eu cyfleoedd perfformio ar hyd a lled y maes i gynulleidfa amrywiol.”
Cyhoeddir enw’r enillydd ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd 2019 gan dderbyn gwobr ariannol o £300 a’r cyfle i berfformio mewn sioe yng Ngŵyl Dewin a Doti Mudiad Meithrin yn 2019. Bydd yr ail yn y gystadleuaeth yn derbyn £200.
Bwriedir cynnal y gystadleuaeth yma ar y cyd eto y flwyddyn nesaf.
Gofynnir i Sian Elin a Lois Glain wneud perfformiadau o 10 munud yr un ym mhob un o’r 3 lleoliad isod ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd, ddydd Sadwrn 1 Mehefin. Cofiwch fynd i’w cefnogi.
Perfformiad 1 – Llwyfan y Lanfa, Canolfan y Mileniwm.
(Slot rhwng 11:00 – 11:30)
Perfformiad 2 – Uned y Mudiad Meithrin (tu allan i Ganolfan y Mileniwm)
(Slot rhwng 13:00 – 13:30)
Perfformiad 3 – Llwyfan Allanol S4C (Y Basn yn y Bae)
(Slot rhwng 14:30 – 15:00)