Siân Elin yw enillydd cyntaf Talent Meithrin – Meithrin Talent

gan Daniel Davies

Mae Mudiad Meithrin a’r Urdd yn falch i gyhoeddi mai Siân Elin Williams o Bencarreg yw enillydd cyntaf cystadleuaeth arloesol i ddod o hyd i dalent newydd i ddiddanu plant ifanc rhwng 2-4 oed a’u rhieni.

Cyhoeddwyd mai Siân Elin, 23, oedd enillydd cystadleuaeth Meithrin Talent-Talent Meithrin ar lwyfan y Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd 2019 ddydd Sadwrn gan dderbyn gwobr ariannol o £300 a’r cyfle i berfformio mewn sioe ar Daith Gŵyl Dewin a Doti Mudiad Meithrin yn 2019.

Meddai Siân Elin, sy’n Swyddog Datblygu gyda Menter Gorllewin Sir Gâr:
“Rwyf wrth fy modd ar lwyfan ac yn diddanu plant a phobl ifanc ac rwy’n gobeithio byddaf yn gallu gwneud e fel gyrfa yn y pen draw. Mae’n braf gallu perfformio’n fyw a gweld ymateb y plant wrth i mi berfformio. Diolch i Mudiad Meithrin a’r Urdd am y cyfle arbennig yma.”

Daeth Lois Glain Postle,19, o Fodedern, Môn yn ail yn y gystadleuaeth gan dderbyn gwobr o £200. Meddai Lois Glain, sy’n astudio Theatr Gerdd yn Llundain:
“Dwi wrth fy modd yn gweithio a chwarae efo plant ifanc ac mae nhw’n rhoi egni i fi. Mae perfformio efo plant yn fyw yn brofiad gwych, ac mae bob sioe yn hollol wahanol.

Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:
“Roeddem fel Mudiad yn awyddus i ddod o hyd i dalent newydd i ddiddanu plant ifanc iawn, yn y gobaith o ddod o hyd i dalentau newydd fyddai’n addas i gynnal Taith Gŵyl Dewin a Doti (sy’n daith tair wythnos o hyd) yn y dyfodol. Felly dyma greu partneriaeth gyda’r Urdd i gynnal y gystadleuaeth yma ar y cyd.”

Mae cystadleuaeth ‘Meithrin Talent – Talent Meithrin’ yn agored i aelodau’r Urdd rhwng 18-24 oed. Fe agorwyd y broses gystadlu fis Medi’r llynedd hyd ddiwedd Rhagfyr gyda’r ymgeiswyr yn llenwi ffurflen gais, anfon portffolio yn amlinellu eu profiad a chreu clip fideo 5 munud o hyd i ddweud ychydig am eu hunain ac i ddangos eu dawn perfformio.

Ddiwedd Ebrill fe dderbyniodd y ddwy a gyrhaeddodd y rhestr fer, sef Siân Elin a Lois Glain, ddiwrnod o hyfforddiant a mentora yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Martyn Geraint sy’n hen law ar berfformio i blant ifanc.

Adloniant gan Siân Elin yn Eisteddfod yr Urdd. @MudiadMeithrin
Adloniant gan Siân Elin yn Eisteddfod yr Urdd. @MudiadMeithrin

Diwedd y daith i’r ddwy oedd y cyfle i berfformio mewn amryfal leoliadau ar hyd maes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019 ddydd Sadwrn 1 Mehefin, gyda’r panel beirniaid yn eu beirniadu ar safon eu perfformiad a’u dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa, a chyfle i berfformio mewn un lleoliad ar daith Gŵyl Dewin a Doti fydd yn cael ei chynnal o 10 – 29 Mehefin eleni.

Meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd:

“Dechrau’r daith perfformio yw Eisteddfod yr Urdd i lawer ac felly roeddem yn falch iawn ein bod wedi gallu cynnal y gystadleuaeth newydd hon yn yr Eisteddfod eleni.”

Bwriedir cynnal y gystadleuaeth yma ar y cyd eto’r flwyddyn nesaf.