Siarad wast! Arbenigedd Dan y Dyn Post

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dyn Post yw Dan Jones sy’n byw yn Llanybydder ac yn y golofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ ym Mhapur Bro Clonc mae’n rhannu llawer o ddoethuneb gyda’r darllenwyr er ei fod ond yn 26 oed.

“Byth yn stresso am ddim byd,” medde fe ” wastad yn cadw’n hapus, mae bywyd yn rhy fyr.”  A’r cyngor gorau a gafodd e oedd “Paid cachu ar stepen drws dy hun.”

Cyngor da siwr o fod, a sylwadau bachog fel hynny a geir ganddo yn rhifyn Hydref Clonc, sylwadau sy’n dod â gwên i’r wyneb.

Pan ddarllenwch chi beth oedd yr eiliad balchaf iddo’n broffesiynol, cewch chi ateb gwahanol i’r arfer.  Yr hyn a ddaw drwy ei atebion yn y papur bro yw ei fod yn ddiymhongar iawn, ond yn llawn hiwmor.

Y peth ofnadwy a wnaeth i gael row gan rywun oedd llungopio ei din a hynny yn yr ysgol gynradd!

Ond gwerthfawrogi’r bobl agosaf ato y mae erbyn hyn.  Mae e mwyaf hapus yn ei gartref gyda Lili ei ferch a Catrin.  Tipyn o gymeriad!  Mynnwch gopi o Clonc yn eich siopau lleol i ddarllen mwy amdano.