Sioe Ffasiwn arbennig Clwb Hoci Llanybydder

gan Carwen Richards

Eleni eto, cynhaliwyd digwyddiad codi arian gan aelodau Clwb Hoci Llanybydder er mwyn cadw’r clwb i fynd.

Ar nos Wener y 18fed o Hydref, daeth torf i Neuadd Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen, Cwmann i Sioe Ffasiwn arbennig o ddillad Lan Llofft.

Dymuna’r merched ddiolch i bawb am eu cefnogi ac am fynychu’r noson. Diolch i’r noddwyr (Dylunio ac Adnewyddu Betsan Jane, Tanya Whitebits, Cacennau Mirain Haf, Beautique – Mel Powell, Powell & Powell a Ffotograffiaeth Emily Janine). Diolch arbennig i Angharad (Lan Llofft) am arwain y noson ac am ddarparu dillad i’r merched gael modelu.

Diolch, hefyd, i staff Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen am gael defnyddio’u Neuadd hardd, ac i’r sawl fu wrthi’n paratoi’r bwyd blasus a’r diodydd ar gyfer y noson. Yn olaf, diolch i Lauren am dynnu lluniau swyddogol o’r noson.

Codwyd swm sylweddol a fydd yn mynd tuag at gostau cynyddol y tîm hŷn a’r tîm iau er mwyn parhau i chwarae hoci ar safon uchel yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwych yn lleol i chwaraewyr ifanc.

Cafwyd noson bleserus a Sioe Ffasiynau cofiadwy iawn gyda’r aelodau yn cymryd rhan. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a’u haelionni.