Sioe Geir a Beics cyntaf Plwy’ Gwenog

gan Siwan Richards
Ar ddydd Sul, 23 Mehefin, gwibiodd ceir a beics o’r gorffennol a’r presennol i Drefach, gyda seren rygbi Cymru, Scott Williams a’i deulu yn ymuno yn y diwrnod.
Daeth tyrfa dda o geir a beics ynghŷd i Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn, Drefach, ar ddiwrnod sych a chynnes. Cafodd yr ymwelwyr wledd i’r llygaid tra’n codi arian at ddau achos teilwng.
Ar ôl beirniadu’r ceir a’r beics, cyflwynodd Scott Williams wobrau i’r enillwyr mewn pedwar categori sef addasiad gorau, beic gorau, car cyn y 70au a car wedi’r 70au. Rhoddodd cwmni Scott Williams Motorsport wobr arbennig i ocsiwn, sef taith yn un o’i geir rasio gan godi swm sylweddol am y profiad bythgofiadwy. Roedd 22 o fusnesau ac unigolion wedi cyfrannu gwobrau hael tuag at y Raffl fawr.
Wrth gerdded o amgylch y ceir a’r beics, roedd cyfle i fwynhau bwyd, diod ac hefyd hufen ia gan ddarparwyr lleol.
Gwledd arall oedd i’r clustiau pan gychwynodd y ceir ar daith 60 milltir. Gyrrwyd ar hyd lonydd bach y wlad, gan gael saib am goffi hanner ffordd yn Llanrhystud. Tybed os welsoch chi’r ceir o amgylch y sir?
Llongyfarchiadau i’r pwyllgor gweithgar am drefnu digwyddiad newydd gan ddod a’r gymuned at ei gilydd mewn achlysur cofiadwy. Diolch i berchnogion y ceir a’r beics a wnaeth ymuno yn y diwrnod a’r ymwelwyr a ddaeth i fwynhau. Bydd yr elw yn mynd tuag at Cronfa Leol Eisteddfod Ceredigion 2020 a Neuadd y Pentref Drefach.