Taith Cymdeithas Ddiwylliadol Bethel Parc-y-rhos

gan Alun Jones
Mary’r Llywydd. Llun: Elma Phillips.
Mary’r Llywydd. Llun: Elma Phillips.

Daeth blwyddyn llywyddiaeth Mary Davies ar Gymdeithas Bethel i ben yn ddiweddar drwy ein tywys i ardal y Preselau, ac i ardal ei magwraeth.

Croesi’r afon Cych a dyna ni o fewn awr yn y drydedd Sir ac yng ngwlad y “Wes Wes”, ac yn teithio drwy bentrefi Blaenffos a Chrymych. Y tywysydd yn dangos copâu’r Frennig Fawr a’r Fach, yn y pellter Tydraeth a Charn Ingli.

Pentre galar oedd y lle nesaf ar ein taith, pryd tynnodd Mary ein sylw at Ardd Goffa ar ochor y briffordd, Gardd Goffa i Siams Defi un o gymwynaswyr yr ardal. Addysgwr, Arolygwr Ffyrdd, Gofynion y Gyfraith cybb a fu fyw rhwng 1758 a 1844. Yn 2005 ffurfiwyd Cymdeithas Siams Defi a Mary yn ymfalchïo ei bod yn llinach y gŵr uchel ei barch a oedd yn byw ar ochr y Preselau.

Pentref nesaf oedd Glandwr, cartref bore oes Mary, a chawsom atgofion y pentref a’r ardal. Pentref lle oedd tair Siop, pum Ffatri Wlân, Trên y Cardi Bach yn pasio, Ysgol a Chapel. Falch i ddweud bod y Capel ar agor, a dyna’r lle y treuliasom ychydig amser gyda Mary yn rhoi hanes trem Anghydffurfiaeth yng Nglandwr.

Dyma’r Capel lle priodwyd Mary a Wynne. Adeiladwyd y Capel yn 1712 gyda chynllun yr eisteddle mewn cylch. Ceir enwau’r unarddeg Gweinidog tu ôl y pulpud o’r cychwyn i’r presennol, sef Parch Emyr Wyn Thomas. Peth unigryw arall o fewn y Capel yw bod “Coat of Arms” Teulu Devonald Fferm y Graig, rhoddwyr y tir ar gyfer codi’r Capel ar fur gyda phenillion mewn Saesneg a Lladin.

Tu allan i’r festri mae Carreg Ogam a adnabyddir fel Carreg Fferm Trehywel, oedd wedi bod yn bostyn iet y fferm. Mae marciau hynafol a llinellau o Groes, mae breichiau’r Groes wedi amgylchyni mewn cylch, a’r gwaelod yn mynd lawr i ryw fath o wddf pysgodyn, ar dalcen y garreg mae ysgrif Ogam.

Wedi cael bore diddorol a phrysur, mynd i Dafarn Sinc i gael cinio, y dafarn enwog hon yn nwylo’r gymuned, a diolch iddynt am groeso cynnes.

Ail gychwyn ein taith ar ôl cinio gan ymweld â cherrig coffa pobol a fydd Cymru gyfan yn cofio am byth, pobol fel Twm Carnabwth, Waldo Williams a W R Evans Glynseithbren, heb anghofio Carreg Las Y Preselau sydd yn rhoi angor i Dre y Cewri.

Diolch yn fawr i Mary a Wynne am drysor o daith a chwmni eu mab Aled.