Taith Gerdded Dydd Calan Cwmann

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cynhelir Taith Gerdded yng Nghwmann ar ddydd Calan.  Dyma gyfle i bawb ddod ynghyd i gerdded wedi’r Nadolig ac i godi arian tuag at achos da lleol.

Gofynnir i bawb gwrdd am 12.30yp ar ddydd Calan ar Gae Pentref Cwmann i ddechrau cerdded am 1.00yp.

Codir arian tuag at Gronfa Ymddiriodolaeth Diabetes Plant Sir Gaerfyrddin wedi i ferch leol gael diagnosis o Diabetes Math 1 yn gynharach eleni.

Bydd y daith o 5 millitir yn mynd o Ganolfan Cwmann, trwy bentref bach Parc-y-rhos ar hyd hewlydd bach ac yna nôl ar hyd y brif ffordd trwy Gwmann i’r Ganolfan am gwpaned o de a chacen.

Dywed Dafydd Lewis y trefnydd “Cafodd Megan y ferch ddiagnosis o Diabetes Math 1 ym mis Medi.  Ar ôl treulio 10 diwrnod ar Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili, daeth adref ac yn fuan roedd yn ôl yn Ysgol Carreg Hirfaen, Cwmann.”

Ychwanega Dafydd “Erbyn hyn mae Megan yn gorfod cael nifer o bigiadau dyddiol o inswlin i reoli ei diabetes.  Mae ffrindiau, teulu a staff yn yr ysgol wedi bod yn hynod gefnogol ers diagnosis Megan ac rydyn ni wedi croesi’r targed gwreiddiol ar wefan justgiving.  Diolch i bawb syddwedi bod mor hael.”

Dymuna Megan godi ymwybyddiaeth o Diabetes Math 1 a chodi rhywfaint o arian ar gyfer Cronfa Ymddiriodolaeth Diabetes Plant Sir Gaerfyrddin; trwy gynnal taith gerdded.

Gallwch gefnogi Megan a rhoi rhodd i’r achos hwn y bydd Megan yn elwa ohono yn uniongyrchol yn y dyfodol drwy ddilyn y ddolen hon.

Estynnir croeso cynnes i bawb ymuno â’r daith, neu ran o’r daith ar y 1af o Ionawr.