Taith i’r Swistir

gan Alun Jones

Dyma ychydig o hanes fy ymweliad â’r Swistir diwedd mis Awst yng ngwmni fy wraig Elsie.

Mae’r Swistir yn Wladwriaeth Ffederal yng nghanol Ewrop, ac felly heb arfodir. Mae’n ffinio â’r Almaen, Ffrainc, Yr Eidal, Awstria a Liechenstein.  Mae’n wlad fynyddig iawn, ac mae rhan helaeth o’r Alpau o fewn ei ffiniau.  Rhenir y wlad i 26 “Kanton” neu randiroedd, ac mewn rhandir o’r enw Obwalden a phentref Engleberg y gwnaethom ein cartref am bron tair wythnos, nid yw pobl y Swisdir yn derbyn bod tref dan ddeg mil o boblogaeth ond pentref.

Mae lleoliadd Engleberg o fewn ardal crwydro Alpau Ur, ac fei amgylchynnir gan fynyddoedd Titlis 10,623 troedfedd uwch y môr Walenstocke 8,438 Rushstock 9,232 Hahnen 8,550 Rootstock a Wessifstock 9,472. Ie roedd yn dipyn o her i gyrraedd y copaon hyn, heb son am weddill y wlad lle ceir yr Eiger a ‘r Mattahorn.

Twristiaeth ac Amaeth yw prif incwm y pentref gyda thri tymor y flwyddyn yn bwysig: yr Haf ar gyfer cerddwyr a dringwyr, tymor yr Hydref pan ddaw y gwartheg i lawr o’r Alpau uchel gyda’r ffermwyr brodorol yn gwisgo eu gwartheg mor lliwgar a’r perchnogion a’r clychau mawr swnllyd wrth wddf y buchod.

Yr hanes cynnar a geir am Engleberg yw 1120 pan sefydlwyd Mynachlog Benedictine, sef Urdd Benedict. Y Mynachlog yw prif atyniad y pentref wedi’r mynyddoedd heddiw, gydag adeilad pedwar llawr sgwar tebyg i Golog Dewi Sant Llanbed ond llawer mwy.

Mae’r Mynachod yn byw mewn cymuned o ffydd a thlodi wedi eu selfennu ar weddi a gwaith.  Erbyn heddiw mae’r Mynachlog yn cynnig addysg elfennol ac uwch i 200 o ddisgyblion yn ferched a bechgyn, a thrwy alwadau y Mynachlog a’r Pentref yn gallu cynnig gwaith yn myd Celf a Chrefftau ar gyfer cadw yr adeliadau mewn cyflwr da. Hefyd maent yn casglu llaeth o denantiaid ffermydd ar gyfer gwneud pob math o gaws.

Gyda llwybrau cerdded o’r safon gorau gyda digon o fynegbyst cerddais lawer, ac un bore cymerais her ein ffrind yn y Swisdir i gerdded i Westy Rugghubel, ie dim ond smotyn yn y mynyddoedd oedd o i weld o Engleberg. Taith i uchder o 7526 troedfedd, ac ar y ffordd gweld blodau alpaidd, gloynnod byw lliwgar, hefyd lle arbennig ar gyfer gwneud mêl, nefoedd i Wenynen gael nectar o’r blodau. Gweld gwartheg yn pori bron hyd y brig, ac ansawdd y bor yn Feillion Coch a Llysiau.  Gweld anifail o’r enw “Murmeltier” neu Marmot , sef anifail tebyg i Wiwer ond yn flewog iawn gyda sgrech o alwad yn atseinio drwy y dyffryn.