Taith Llion i Borneo

gan Ann Herbert
Llion gyda’i gyfnitherod yn paratoi’r raffl.
Llion gyda’i gyfnitherod yn paratoi’r raffl.

Yn ystod mis Awst eleni, mi fydd Llion Herbert o Gwmann yn mynd ar alldaith i Forneo yn Ne Ddwyrain Asia i wirfoddoli gyda 7 arall o Ysgol Fro Pedr. Tra yno mi fydd yn cymryd rhan mewn prosiect wedi ei leoli mewn pentref tlawd.

Fel rhan o’r prosiect mi fydd o bosib yn dysgu rhai i ddarllen, gweithio gyda phlant yr ardal a chynorthwyo gyda gwaith adeiladu ysgolion ac eglwysi efallai. Yn ystod y prosiect byddant yn aros mewn ffermydd lleol.

Fel unigolion roedd disgwyl iddynt godi £3000 er mwyn medru cymryd rhan yn y prosiect hyn. Mi fydd y trip yn brofiad unigryw i’r grŵp yma.

Penderfynodd Llion ynghyd â chefnogaeth ei deulu drefnu Te Prynhawn yng Nghanolfan Bentref Cwmann ar brynhawn dydd Sul 5ed o Fai. Cafwyd cefnogaeth arbennig gan bobl yr ardal, gyda phob tocyn wedi ei werthu.

Pawb yn mwynhau’r te prynhawn yng Nghwmann.
Pawb yn mwynhau’r te prynhawn yng Nghwmann.

O ganlyniad i’r te a chefnogaeth unigolion, cymdeithasau a busnesau lleol, mae Llion wedi cyrraedd ei darged o £3,000. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.