Teithiau Tractor wedi codi dros £25,000.

Haulwen Lewis
gan Haulwen Lewis
Tom Lewis yn cyflwyno siec i Gangen Ceredigion o Gŵn y Deillion wedi Taith 2018. Llun: Pencader.org

Mae Tom Lewis, Pencader wedi cynnal taith tractorau ar ddydd Llun y Pasg ers 2009, ac erbyn hyn wedi codi dros £25000 tuag at gwahanol achosion da.

   Eleni fydd yr arian yn mynd tuag at ymchwil Prifysgol Cymru Caerdydd i Sglerosis Ymledol.  Dewch i ymuno yn hwyl y diwrnod.  Cwmniaeth dda a chinio werth ei gael i orffen y diwrnod.
   Ceir manylion y daith eleni ar y poster isod.  Byddant yn gadael Dolgarn, Pencader am 10 o’r gloch ar fore Llun 22ain Ebrill.  A gellir cysylltu â Tom Lewis am ragor o fanylion.
   Dyma ddigwyddiad sy’n boblogaidd iawn yn yr ardaloedd hyn gyda dilynwyr brwd iddo bob tro.  Elusen haeddiannol unwaith eto a chyfle i dynnu trigolion at ei gilydd.  Pob hwyl gyda’r daith eleni eto.  Cofiwch gefnogi dros Ddydd Llun y Pasg.

TAITH TRACTORAU

 Dydd Llun y Pasg

 Ebrill 22ain 2019

Gadael Dolgran am 10.00yb. 

Elw tuag at Ymchwil

Prifysgol Caerdydd tuag

at “Multiple Sclerosis”

Manylion pellach oddiwrth

Tom Lewis  01559 384279

07855 251508