Talentau Ffermwyr Ifanc lleol ar lwyfan Cymru

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Twm yn ei gadair. Llun: Nia Wyn Davies.
Twm yn ei gadair. Llun: Nia Wyn Davies.

Roedd aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc ardal Clonc yn disgleirio yn Wrecsam ddoe yn Eisteddfod Cymru’r mudiad.

Uchafbwynt y dydd oedd prif seremoni’r eisteddfod lle enillodd Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog y gadair.  Wedi beirniadaeth yn llawn canmoliaeth, camodd Twm i’r llwyfan gan gynrychioli sir Ceredigion wedi iddo gipio’r gadair a’r goron yn yr eisteddfod yno yn ystod mis Tachwedd.  Bu bron â gwneud y dwbl eto ddoe.  Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Cymru hefyd.

Gwelwyd mwy o ganlyniadau da i aelodau’r ardal gan yr holl gefnogwyr a fynychodd ac ar S4C a fu’n darlledu oddi yno neithiwr.

Llwyddodd Daniel Evans o Glwb Bro’r Dderi i gael ail yng nghystadleuaeth i rai dan 21 oed am ysgrifennu erthygl i gylchgrawn CFfI.

Rhagorodd Nest Jenkins o Glwb Lledrod (cyn ddisgybl Ysgol Bro Pedr) mewn dwy gystadleuaeth o safon uchel gan ddod yn gyntaf yn canu’r delyn yng nghystadleuaeth Unawd Offerynnol ac am Lefaru gan ennill Tlws Joy Cornock.

Daeth clod i Heledd Besent Clwb Mydroelin (athrawes yn Ysgol Bro Pedr) wrth iddi gael trydydd yn yr Unawd 26 neu iau.

Gwledd i’r llygad ac i’r glust oedd y gystadleuaeth Meimio a rhaid canmol aelodau Clwb Llanwenog am ddod yn drydydd.

Yn y gystadleuaeth Canu Emyn lle clywyd canu o safon uchel iawn, aeth y drydedd wobr i Lowri Elen o Glwb Bro’r Dderi.

Daeth clod eto i’r ardal hon yng nghystadleuaeth ysgrifenedig Y Limrig.  Sioned Howells, Clwb Llanllwni a ddaeth yn gyntaf gydag Endaf Griffiths, Clwb Pontsian yn drydydd.

Gwobrwywyd aelodau Clwb Llanwenog yng nghystadleuaeth Parti Deusain dan 26 oed wrth iddynt ddod yn drydydd.

Y gystadleuaeth fwyaf poblogaidd bob blwyddyn ar lefel sir ac ar lefel Cymru yw’r Ddeuawg neu’r Triawd Doniol, a Chlwb Llanllwni a ddaeth i’r brig gyda pherfformiad cofiadwy a doniol tu hwnt o fam ofudus a dau fab drygionus gan Sioned Howells, Hefin Jones ac Ifor Jones.

Diwrnod hollol wych, ac amrywiaeth o ddoniau lleol ar lwyfan Cymru yn cael eu gwobrwyo’n haeddiannol.  Llongyfarchiadau i bawb.

Diolch i Nia Wyn Davies a fu’n gohebu oddi yno ar ran Clonc360 gan sicrhau ffrŵd cyson o ganlyniadau byw ar wefan gymdeithasol twitter.  Ceir mwy o luniau’r dydd ganddi yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc.