Targed ychwanegol i gronfa leol Eisteddfod 2020

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Gofyn i bobol Ceredigion godi £70,000 ychwanegol wedi i’r gronfa leol gyrraedd ei tharged yn gynnar.

Mae 8 mis i fynd nes Eisteddfod Tregaron 2020, ac mae cronfa leol ardal Ceredigion eisoes wedi cyrraedd ei tharged ariannol o £330,000.

Mae Elin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor gwaith wedi cadarnhau fod y Gronfa wedi cyrraedd ei tharged a bellach wedi penderfynu ymestyn y targed i £400,000.

Daw’r cyhoeddiad yma wythnos wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol gadarnhau bod y brifwyl yn Llanrwst eleni wedi gwneud colled o bron i £160,000.

Er hyn mae’r pwyllgor gwaith yn awyddus i bwysleisio mai diben ymestyn y targed yw gwella’r cyfleusterau ar y maes. Y bwriad yw datblygu Pentref Dysgu Cymraeg a Phentref Gwledig yn yr Eisteddfod flwyddyn nesaf.

“Gwneud defnydd arbennig o unrhyw arian ychwanegol”

Ni fydd targed penodol yn cael ei roi i ardaloedd gwahanol meddai Elin Jones, “Yn hytrach, fe fyddwn ni’n eu hannog i barhau gyda’r gwaith da am ychydig fisoedd yn fwy, ac fe fyddwn ni’n gwneud defnydd arbennig o unrhyw arian ychwanegol a ddaw i’r coffrau.

 

Mae Pwyllgor Apêl Llanbed eisoes wedi cyrraedd eu targed ac mae digwyddiadau yn parhau i gael eu  trefnu.

“Mae Llanbed eisoes wedi codi mwy na’r targed gwreiddiol” meddai Maer y dref Rob Phillips “ac rwy’n hyderus bydd y Sir gyfan yn medru cyrraedd y targed newydd sydd wedi ei osod gan y pwyllgor gwaith.”

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus’u cynnal gan bwyllgorau apêl ar draws y sir, gan gynnwys cyngerdd aduniad Cwlwm yn neuadd Coleg Llambed.

“Bydd yr Eisteddfod yn gadael gwaddol da ar ei hôl”

“Mae’r digwyddiadau diweddar wedi bod yn gyfle i hyrwyddo diwylliant Cymraeg, dod a pobol newydd ynghyd a chreu bwrlwm am ymhlith ein cymunedau” meddai Rob Phillips, ac mae’n ffyddiog y “bydd yr Eisteddfod yn gadael gwaddol da ar ei hôl” yn Llanbed a Cheredigion.

Dywedodd llefarydd ar ran un pwyllgor apêl fod nifer o bwyllgorau wedi gosod targedau uwch i’w hunan ers y cychwyn, a’u bod nhw’n rhagweld bydd y gronfa leol yn codi mwy na’r targed newydd o £400,000 sydd wedi ei osod gan y pwyllgor gwaith.

 

Diolchodd Elin Jones ar ran y Pwyllgor Gwaith i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hyd yn hyn.  “Mae’n wych o beth gweld cymaint o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y sir gyfan yn dod â phobl o bob cefndir ac oedran ynghyd.”

 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst.