Dafydd Iwan yn dathlu gyda Merched y Wawr

Haulwen Lewis
gan Haulwen Lewis
Merched y Wawr Pencader yn dathlu’r Aur. Llun: merchedywawr.cymru

Ym 1968 sefydlwyd cangen Merched y Wawr Pencader, ac fel rhan o ddathlu hanner canrif cynhelir ‘Te Prynhawn’ yn Neuadd yr Ysgol Llanfihangel ar arth ddydd Sadwrn Ebrill 13eg am 3 o’r gloch.

Croeso i bawb yn ŵyr a gwragedd i ymuno â ni, ond bydd rhaid cael tocyn, pris £10 oddi wrth Marina Davies 01559 384252 neu Ann Phillips 01559 384558.  Cysylltwch yn gloi, neu fydd dim tocyn ar ôl.
Dafydd Iwan. Llun: ylolfa.com

Hefyd cynhelir  Noson Gyngerdd gyda Dafydd Iwan yng nghapel Gwyddgrug Nos Wener Mai 24.  Ni fydd tâl mynediad, felly dim rheswm i beidio achub ar y cyfle i’w glywed unwaith eto. (Bu Dafydd Iawn yn byw yng Ngwyddgrug pan oedd ei dad y diweddar Barchedig Gerallt Jones yn weinidog yr efengyl yno).  Noson arbennig felly.  Dathlu, llawenhau a mwynhau yng nghwmni aelodau Merched y Wawr Pencader a’r dyn ei hun.  Dewch yn llu.