Tîm Swyddogion newydd Ysgol Bro Pedr

gan Mari Lewis
Prif Swyddogion Ysgol Bro Pedr a’u dirprwyon am y flwyddyn 2019 – 2020, Elin Davies, Lisa Evans, Gwyn Davies, Heledd Jenkins, Idris Lloyd, Theo Teasdale a Eleri James.  Llun: Tim Jones.

Yn ddiweddar, apwyntiwyd tîm newydd o Brif Swyddogion yn Ysgol Bro Pedr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-2020.

Ar ôl llenwi ffurflen gais, etholiad ymysg disgyblion blwyddyn 12 ac athrawon a chyfweliad gyda’r panel apwyntio, penderfynwyd apwyntio Elin Davies, Lisa Evans a Gwyn Davies yn Brif Swyddogion, a’u dirprwyon; Heledd Jenkins, Idris Lloyd, Theo Teasdale a Eleri James.

Mae’r tîm swyddogion yn cyfrannu llawer at fywyd yr ysgol trwy gydol y flwyddyn, gan gynrychioli’r ysgol mewn sawl digwyddiad mewnol ac allanol.

Un o Gwmsychbant yw Elin a hi oedd Capten Tŷ Creuddyn yn Eisteddfod yr Ysgol eleni. Mae’n aelod o Gyngor yr Ysgol a Chyngor Ieuenctid Ceredigion hefyd.  Mae wrth ei bodd yn chwarae hoci i Dîm Llanybydder ac yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog.  Ymfalchïa yn y ffaith ei bod wedi cael trydydd dros Gymru am farnu stoc.

Lisa Elan oedd Capen Tŷ Teifi eleni ac enillodd y wobr gyntaf yng Ngwobrau Arloesedd CBAC am waith Dylunio a Thechnoleg gorau.  Mae’n aelod o Gyngor Cymreictod yr ysgol, Cyngor Ieuenctid Ceredigion ac yn Lysgennad yr Urdd.  Daw o Gwmann ac mae’n hoff o chwarae pêl-rwyd gyda Chlwb Llewod Llambed.

Cyn ddisgybl o Ysgol Henry Richard yw Gwyn Davies.  Mae’n byw ar ffarm defaid ac ieir yn Llangeitho.  Roedd yn is gapten Tŷ Dulas ar gyfer Eisteddfod yr Ysgol ac mae’n mwynhau chwarae rygbi i Dîm Ieuenctid Llanbed.

Chwaraeon yw byd Heledd o Lanwnnen, ac mae’n berson chwaraeon o fri.  Mae’n chwarae rygbi dros Dîm Cwins Caerfyrddin a’r Scarlets.  Mae hi’n hyfforddi eraill ac yn dwlu ar weithgareddau gymnasteg.  Mae hi hefyd yn Arweinydd rygbi URC.

Llanwnnen yw cartref Idris hefyd.  Mae e yn chwarae rygbi i Dîm Ieuenctid Llanbed hefyd ac yn Eisteddfod yr Ysgol eleni roedd yn gapten Tŷ Dulas.  Roedd yn rhan o Gyngor Cymreictod yr ysgol y llynedd.  Mae’n fathemategwr medrus wedi ennill gwobr efydd mewn cystadleuaeth Her Mathemateg.

Daw Theo o dref Llanbed, ond bu ar alldaith gyda’r ysgol yn ddiweddar i Borneo a gwneud gwaith elusennol yno.  Mae’n mwynhau astudio mathemateg a gwyddoniaeth a bu’n chwarae llawer o bêl-droed.  Bu’n aelod o Gyngor yr Ysgol hefyd.  Yn ogystal â hynny, fe welwch ef yn gweithio yn siop y teulu sef Mulberry Bush.

Llanddewi Brefi yw cartref Eleri ac mae’n mwynhau gwirfoddoli yn lleol.  Roedd hi’n is gapten Creuddyn yn Eisteddfod yr Ysgol, mae’n chwarae’r soddgrwth ac yn hoffi sglefrio iâ a bale.  Roedd ar Bwyllgor Lles yr ysgol ac mae ganddi waith rhan amser mewn meddygfa leol.

Llongyfarchiadau mawr i’r saith ohonynt, a dymuniadau gorau iddynt ar gyfer blwyddyn brysur a dymunol yn Ysgol Bro Pedr!