Twm yn ennill y Gadair mewn eisteddfod arbennig

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Twm Ebbsworth yn dal y gadair fach yn ei law
Twm a’r Gadair

Dim ond rhyw hanner milltir oedd taith Cadair yr Ifanc yn Eisteddfod Capel–y-Groes eleni, wrth i’r wobr fawr fynd i Twm Ebbsworth o bentre’ Llanwnnen.

Fe gurodd 11 o ymgeiswyr eraill i gipio’r gadair gyda cherdd ‘Gobaith’ yn sôn am fywyd pobol ifanc mewn mannau fel Maes B yr Eisteddfod a Phrifysgol Aberystwyth.

Fe gafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad, Luned Mair, am gerdd oedd, meddai, yn dal ysbryd pobol ifanc.

“Mae hi’n peintio darluniau clir, sionc, llawn bwrlwm ac mi wnaeth hi wneud i fi deimlo gwir hiraeth am ddyddie’ coleg a’i hafau hir, llawn hwyl ac addewid,” meddai.

Ennill  yn gyson

Dyma’r diweddara’ mewn cyfres o wobrwyon llenyddol i Twm Ebbsworth sydd hefyd yn aelod amlwg o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog.

Pan oedd yn yr Ysgol Uwchradd yn Llanbed fe enillodd y Gadair dair gwaith yn olynol a gwneud dwbl y Gadair a’r Goron hefyd. Ymhlith gwobrwyon eraill, mae wedi ennill Tlws yr Ifanc yng Ngŵyl Fawr Aberteifi.

Eisteddfod arbennig

Roedd yr eisteddfod yng Nhgapel-y-Groes eleni yn un o’r gorau ers blynyddoedd gyda chefnogaeth fawr yn enwedig ymhlith y plant. Erbyn y cadeirio am  8.30pm, roedd 120 o berfformiadau gwahanol wedi bod ar y llwyfan.

Roedd Cadeirydd yr Eisteddfod, Manon Richards, yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth, yn enwedig gan yr Ysgol Gynradd leol, Ysgol Dyffryn Cledlyn, gyda nifer fawr o ddisgyblion yn cymryd rhan.

Ceir holl luniau’r eisteddfod yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc.