gan
Dylan Lewis
Yn ystod Noson Harmonïau’r Hydref a gynhaliwyd yng Ngholeg Llanbed neithiwr, cafodd dau ddisgybl o Ysgol Carreg Hirfaen y dasg o dynnu lluniau gyda’r sêr.
Cafodd Megan a Deina fenthyg camera Clonc360, a holi’r sêr am dynnu lluniau gyda nhw. Artistiaid y noson oedd Ifan Gruffydd, Delwyn Sion a Cwlwm.
Dyma’r tro cyntaf i Cwlwm berfformio ers ugain mlynedd, a daeth y pum merch nôl at ei gilydd yn arbennig y noson hon er mwyn codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol 2020.
Roedd Neuadd Lloyd Thomas dan ei sang, ond brwydrodd Megan a Deina yn erbyn y tryfaoedd a dyma’r lluniau a gafodd y ddwy.
Bydd adroddiad llawn am y noson lwyddiannus hon yn dilyn cyn hir. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan ohoni.