Wythnos arbennig Carnifal Llanybydder

gan Sam Leigh Evans
Enillwyr yr helfa drysor mewn cerbyd. Llun gan Lowri Jones.

Cawsom wythnos arbennig yn dathlu wythnos Carnifal Llanybydder ar ddiwedd Mehefin

Nos Lun cawsom daith helfa drysor o amgylch yr ardal, roedd Emyr, Rhian ac Elain wedi trefnu, sef enillwyr llynedd.  Meryl, Anthony a Pugh enillodd.  Roedd angen estyniad ar y Clwb Rygbi nos Fawrth ar gyfer y noson bingo, gan fod y lle yn orlawn.

Trainers oedd angen nos Fercher, gan taw noson yr helfa drysor o amgylch y pentref oedd hi.  Ar ôl tipyn o gerdded ac edrych mewn i sawl gardd, yr enillwyr oedd Emma, Meinir, Sion a Sioned Fflur.

Diolch i Donna a Pat o Tangraig am adael i ni gynnal y digwyddiad yna ac i Evans Bros am argraffu’r papurau cwestiynau.

Enillwyr yr helfa drysor ar droed. Llun gan Siona Evans.

Roedd nos Wener yn noson o grafu pen yn wir, wrth i ni gystadlu yn y cwis yng Ngwesty Cross Hands.

Ar ôl brwydr galed, yr enillwyr oedd Norfolkinchance, llongyfarchiadau iddyn nhw, a phob lwc wrth iddynt fynd ati i drefnu y cwis y flwyddyn nesaf.

Diolch i Owen a Harri am drefnu’r cwis ac i Huw am holi’r cwestiynau.  Diolch hefyd i Kevin a Vicky am adael i ni gynnal y cwis yn y Cross Hands.

Delmi a Colin yn ennill y ras deircoes. Llun gan Siona Evans.

Hoffai Pwyllgor Pentref Llanybydder ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan ac i bawb a ddaeth i gefnogi’r carnifal.  Heb y cefnogwyr byddai’r pwyllgor yn methu trefnu’r holl ddigwyddiadau, yn enwedig y trip blynyddol.

Blwyddyn nesaf bydd Carnifal Llanybydder yn dathlu 60 mlynedd o fodolaeth.  Felly mae’r paratoi yn dechrau nawr – thema y carnifal fydd unrhyw beth i ymwneud â’r 60au: rhaglenni teledu, cerddoriaeth, digwyddiadau, ayyb.