Y CWLWM sy’n dynnach nag a fu erioed

gan Carys Lloyd-Jones
Cwlwm. Llun gan Delyth Phillips.
Cwlwm. Llun gan Delyth Phillips.

Ar nos Sadwrn y 12ed o Hydref daeth bron 250 o bobl ynghyd i neuadd Coleg Llambed i fwynhau gwledd o adloniant yng nghyngerdd ‘HARMONIAU’R HYDREF’.

Roedd y gynulleidfa yn cynnwys ein gwahoddedigion, Ben Lake A.S, Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion ac hefyd Maer y Dref Rob Phillips a’i briod Delyth Morgans Phillips. Pleser oedd cael y tri yn bresennol yn y noson arbennig hon.

Roedd hi’n noson wefreiddiol ac yn gyfle i mi glywed merched ‘Cwlwm’ yn canu yn fyw am y tro cyntaf erioed. Profiad bythgofiadwy yn wir.

Ifan Gruffydd a Carlo.

Agorwyd y noson gan yr arweinydd gwadd sef Ifan Gruffydd a oedd ‘on top form’. Roedd y jocs yn llifo ac roedd clywed y dorf yn chwerthin yn brawf o’i hiwmor unigryw. Ga i gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i Carlo’r Ci am wneud ymddangosiad ar y noson a’i longyfarth!!! sori longyfarch am ddod yn aelod o orsedd y beirdd o dan ffugenw ‘Carlo o’r Cenel’. Roedd ymateb y dorf yn dyst i lwyddiant ysgubol y comediwr o Dregaron.

Yna cafwyd y fraint o wrando ar y canwr enwog Delwyn Sion. Mae ei ganeuon yn adleisio diffuantrwydd ei brofiadau personol ac roedd gwrandawiad astud y dorf yn hudol wrth wrando ar ei lais unigryw.

Dysgais ffaith ddiddorol amdano a synais fod Delwyn Sion a Max Boyce yn gefnderwyr, y ddau berfformiwr o gymoedd y de a’r ddawn o rannu profiadau personol a plesio’r gynulleidfa ar yr un pryd. Gorffennodd Delwyn Sion y noson gyda’i gan Nadoligaidd ‘Un Seren’ un o glasuron cerddoriaeth Cymraeg.

Delwyn Sion

Ac ymlaen i uchafbwynt y noson – aduniad ‘Spice Girls’ Llambed – Cwlwm. Talentau o fri a phob un o’r pump yn amlwg yn ffrindiau oes. Roedd edrych ’mlan mawr i’r noson, y tocynnau wedi gwerthu allan ers misoedd a phawb dros Gymru wedi clywed am aduniad y pumpawd enwog o Lambed.

Yng nghwmni Shan Cothi, Delyth Medi, Eleri Twynog, Elin Jones a Hedydd Thomas, ni chafodd neb eu siomi gan griw ‘Cwlwm’. Y merched i gyd a’u gwereiddiau yn sownd yng Nghyffiniau Llambed. Y pump wedi cwrdd yn ysgol Llambed ac wedi eu clymu gyda un peth yn gyffredin – y cariad at ganu.

Er bod wythnos wedi mynd mae’r harmoniau soniarus a greuwyd ganddynt yn aros yn y cof. Fel cynulleidfa aethon ni ar daith gyda’r marched yn ôl i ddechrau Cwlwm hyd at heddiw. Er fod pob un o’r aelodau yn llwyddiannus yn eu meysydd eu hun roedd yna rywbeth hudol wrth i’r grŵp ddod at ei gilydd i berfformio.

Roedd y neuadd yn llawn nostalgia a chaneuon Cwlwm nas canwyd ers 20 mlynedd yn llenwi’r neuadd. Mae gen i fy ffefrynnau personol yn cynnwys ‘Walts da Matilda’, yr emyn enwog  ‘Mor Fawr Wyt Ti’ a’r clasur ‘Heddiw, Fory’. Fel y soniais mae 20 mlynedd wedi pasio ers i’r pump ganu gyda’i gilydd mewn cyngerdd fel hyn ac roedd hi’n anrhydedd i ni fel trigolion Llambed a thu hwnt i brofi ‘Y Cwlwm sy’n dynnach nag a fu erioed’.

Cafodd y merched ymateb anhygoel gan y gynulleidfa. Roedd y bloeddio wrth i’r  gyngerdd ddod i ben yn dyst i lwyddiant anhygoel y noson. A gyda chymorth yr artisiaid gwadd a’r gynulleidfa frwd codwyd £2,000 anrhydeddus i goffrau Pwyllgor Apêl Eisteddfod Ceredigion Tre Llambed 2020.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i’r ‘A-TEAM’ (tîm Ann Bowen-Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Apêl)  aka Aelodau y Pwyllgor Apêl am drefnu’r noson lwyddiannus hon. Ymlaen i 2020!!!