Y Fferyllydd Ffein yn Gymeriad Bro

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Philip Lodwick
Philip Lodwick

Cymeriad Bro mis Chwefror ym Mhapur Bro Clonc yw Philip Lodwick o Gwmann.  Bu’n fferyllydd yn Llanbed am 30 o flynyddoedd ac mae’n cyfrannu’n helaeth i’w gymuned.

Yn wreiddiol o Benygroes ger Crosshands, dywed fod y blynyddoedd yn y Fferyllfa ar y Stryd Fawr wedi bod yn rhai hapus iawn a bu’n lwcus iawn o gydweithio â staff da.  Cofia ddiwrnodau mart yn Llanbed fel rhai prysur iawn a thrwy’r golofn ‘Cymeriadau Bro’ y mis hwn gallwn ddarllen fel mae fferyllyddiaeth wedi newid dros y blynyddoedd.

Mae Philip yn adnabyddus am ei ddiddordeb yn cerdded gyda Chymdeithas y Cerddwyr yn lleol a bu ef a’i wraig Ceris yn weithgar iawn ar bwyllgor Gefeillio Llanbed gan drefnu teithiau i Ffrainc a pharatoi gweithgareddau i’r ymwelwyr nôl yn y dref.

Os am ddarllen mwy am y fferyllydd ffein, mynnwch gopi diweddaraf o Bapur Bro Clonc, ar gael nawr yn y siopau lleol.