Y Papur Bro yn plesio

Canfyddiadau Arolwg Papur Bro Clonc.

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Mewn arolwg arlein a gynhaliwyd ym mis Ebrill, mynegodd 88%  bod cynnwys Papur Bro Clonc yn berthnasol neu berthasol iawn.  Mae hyn yn ogystal â chanfyddiadau eraill yn galonogol iawn o ystyried patrymau darllen papurau newydd yn gyffredinol.

Ymatebodd nifer dda i’r holiaduron sef 94 o ddarllenwyr, a darganfyddwyd barn a gwybodaeth ddefnyddiol iawn er mwyn parhau i ddarparu papur bro yn ardal Llanbed yn ogystal â gwasanaeth unigryw gwefan Clonc360.

O ystyried mai gwirfoddolwyr sy’n cynhyrchu’r papur bro, roedd y canfyddiadau’n dangos fod Clonc yn plesio’n fawr. Roedd 90% yn cerdu bod diwyg Clonc yn apelgar neu apelgar iawn.  Roedd 98% yn credu bod Clonc yn hawdd neu’n hawdd iawn ei ddarllen.

Byddai 87% yn fodlon talu £1 neu fwy am gopi o Clonc.  Serch hynny, yng nghyfarfod blynyddol Clonc a gynhaliwyd nos Fawrth, gwelwyd nad oedd angen codi pris y papur ar hyn o bryd.

Cadarnhawyd swyddogaeth graidd y papur bro wrth i 40% ddweud eu bod yn troi at newyddion y pentref/dref yn gyntaf wrth ddarllen Papur Bro Clonc.  Ac mae hynny’n nodweddiadol o gryfder papur bro.  Ble arall y cewch wybodaeth am ben-blwyddi arbennig, llwyddiannau lleol a cholledion yn ein cymunedau?

Roedd 100% o’r rhai a holwyd yn ymwybodol mai gwirfoddolwyr sydd yn gwneud Clonc o fis i fis, sy’n dangos bod gwreiddiau’r papur bro yn ddwfn yn yr ardal.

Mae Papur Bro Clonc yn ffodus iawn bod cynifer o gwmnioedd lleol yn hysbysebu yn y papur.  Yn yr arolwg diweddar, dywedodd 93% o’r darllenwyr eu bod yn fodlon â’r hysbysebion ac nad oedden nhw’n amharu ar eu mwynhad o’r papur..

Wrth holi am wefan Clonc360, ymatebodd 27 defnyddiwr, ac roedd y canfyddiadau’n ddiddorol iawn. Mae 81% yn credu bod cynnwys gwefan Clonc360 yn berthnasol neu’n berthansol iawn ac mae 96% yn credu bod iaith y wefan yn hawdd neu’n hawdd iawn ei darllen.

Dysgwyd bod pobl yn y gymuned sydd ddim yn cyfrannu ar hyn o bryd ond a fyddai’n dymuno cyfrannu tuag at Bapur Bro Clonc a gwefan Clonc360.  Dangosodd yr arolwg bod 48% yn gwybod sut i gyfrannu i wefan Clonc360 ond bod 30% eisiau dysgu mwy.  Beth am wylio fideo felly i ddysgu mwy am gyfrannu i wefan Clonc360?

Dysgwyd hefyd y gellir cynyddu ar aelodaeth Clwb Clonc oherwydd bod 53% yn aelodau pesennol a bod 33% yn dymuno bod.  Ceir dolen yma i ffurflen ymaelodi.

Y ffasiwn diweddaraf ymhlith papurau bro a chyhoeddiadau eraill yw lleihau maint y papur i A4, ond gwelwyd bod gwrthwynebiad i hynny.  Roedd 63% am gadw i’r maint presennol o B4.

Mae gwirfoddolwyr Clonc felly’n gwneud gwaith da, ac yn ateb y galw am newyddion lleol yn Gymraeg.  Roedd 100% o’r rhai a ymatebodd yn teimlo bod lle i Bapur Bro Clonc a gwefan Clonc360 ar hyn o bryd.  Ond ar y llaw arall does dim galw am werthu copi digidol o’r papur bro.

Canfyddiadau diddorol.  Diolch i bawb a gymerodd ran.  Mae’r canfyddiadau felly yn glod i bawb sy’n cyfrannu at lwyddiant Papur Bro Clonc a gwefan Clonc360 – gohebwyr, golygyddion, dylunwyr, dosbarthwyr, plygwyr ac wrthgwrs y darllenwyr.