Ffermwyr Ifanc y gorllewin yn uno i “chwalu stigma iechyd meddwl”

Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro yn cydweithio am y tro cynta.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Noson Iechyd Meddwl

Bydd ffermwyr ifanc y tair sir yn y gorllewin yn dod at ei gilydd ar ddiwedd y mis er mwyn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Ar Ionawr 31, bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Emlyn, Castellnewydd Emlyn ar y cyd gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro – y tro cyntaf i’r tri ffederasiwn gydweithio ar gyfer achos o’r fath.

“Mae bywyd yng nghefn gwlad yn gallu bod yn anodd ac yn unig iawn weithiau, a hawdd yw meddwl nad oes neb ar gael i wrando. Ond mae help i’w gael,” meddai Endaf Griffiths, Ffermwr Ifanc CFfI Ceredigion eleni, ac un o drefnwyr y digwyddiad.

“Bydd y noson hon yn gyfle i wneud gwahaniaeth wrth i Ffermwyr Ifanc y tair sir ddod ynghyd i geisio chwalu’r stigma o amgylch iechyd meddwl.

“Dyma bwnc sy’n berthnasol i bawb, o bob oed, ac mae’n bwysig bod y rhai sy’n dioddef yn gwybod ei bod yn iawn i siarad.”

 

Chwalu’r stigma

Mae’r noson sydd yn rhad ac am ddim yn ddigwyddiad dwyieithog, a bydd yn gyfle i aelodau o’r mudiad a’r cyhoedd ddod ynghyd i chwalu’r stigma a chael trafodaeth am bwnc sydd â thabŵ yn ei gylch – yn enwedig yng nghefn gwlad.

Bydd y noson yn cynnwys panel o siaradwyr, sesiwn holi ac ateb, ac ocsiwn.

Bydd yr holl elw yn cael ei rannu rhwng dwy elusen iechyd meddwl – Tir Dewi a’r DPJ Foundation.

 

Poster Noson Iechyd Meddwl

 

Siaradwyr gwadd:

Alun Elidyr – Cyflwynydd, actor a ffermwr

Emma Picton-Jones – DPJ Foundation

Y Parchedig Ganon Elieen Davies – Tir Dewi.

Cadeirydd: Meinir Howells – Cyflwynwraig a ffermwraig