£13,000 Llais Llambed tuag at brosiectau lleol

Y cyhoedd wedi penderfynu pa grwpiau cymunedol, clybiau a sefydliadau gwirfoddol oedd yn elwa.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr yn nigwyddiad Cyllidebu Cyfranogol Llais Llambed a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 12fed Rhagfyr.

Canolfan Teuluol Llambed – £3,000;
Cynllun Cymydog Da Young@Heart – £2,000;
Clwb Ieuenctid Eglwys Sant Pedr – £1,224;
1st Lampeter Guides and Rangers – £3,000;
Prosiect Bwyd Llambed – £2,115;
CFfI Cwmann – £1,057;
POBL – Canolfan Galw Heibio am Gymorth (Offer TG) – £604.

Mae Llais Llambed yn Brosiect Cyllidebu Cyfranogol a ariennir gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed Powys (OPCC), Prifysgol Y Drindod Dewi Sant a West Housing.

Cychwynnwyd y prosiect cyllido hwn gan Gomisiynydd yr Heddlu a thrwy waith partneriaeth lleol mae sefydliadau eraill wedi cyfrannu hefyd.

Nod y prosiect yw darparu cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol, clybiau, sefydliadau gwirfoddol a mwy trwy broses oedd yn caniatáu i gymunedau Llanbed a Llanybydder benderfynu i ble’r oedd y cyllid yn mynd.

Roedd y pot cyllid yn £13,000 a roedd ymgeiswyr yn gallu cynnig am arian hyd at uchafswm o £3,000 drwy gyflwyno fideo, ac mewn cyfarfod Zoom ddydd Sadwrn cafodd y cyhoedd gyfle i pleidleisio am brosiectau haeddiannol.