47,000 wedi gwylio Sioe Ffasiwn a Lamb Roast Alltyblaca!

Ymateb anhygoel i fideo Slaycorp, a chyfle i gwmnioedd hysbysebu yn yr un nesaf.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ydych chi wedi gwylio “Sioe Ffasiwn a Lamb Roast Alltyblaca”?

Chanel, Versace, Armani, Daniel Davies Gents Outfitters, Llambed – enwau chwedlonol o fyd ffasiwn. Ond dim ond un lleoliad sy’n addas ar gyfer cewri dillad o’r math..Alltyblaca.

Wyn Pant y Bronne a Viv Bryn Menyn sy’n arwain ni drwy’r casgliadau eiconig yma. Dewch am y ffasiwn, ond arhoswch am kebabs Jones y bwtshwr.

Dyna oedd disgrifiad Gary Slaymaker o gynhyrchiad diweddaraf Slaycorp ar facebook, ac a gafodd 47 mil o wylwyr.

Mae’n fideo doniol iawn lle mae dau gyfaill gwledig yn gwylio sioe ffasiynau gyfoes ac yn rhoi sylwadau personol amdanynt. Gwelir modelau yn arddangos dillad anymarferol o newydd gyda Wyn a Viv yn cyfeirio at y modelau yn ôl traddodiad cefn gwlad o enwi pobl ar ôl ffermydd.

“Wel fi wedi chwerthin mas yn uchel yn watsho hwn. Un da. Gwerth ei wylio.” Oedd ymateb Terwyn Davies.

“Brilliant, ffili stopo ‘werthin.” Oedd sylwad Janet Evans ar facebook.

“Diolch i bawb sydd wedi gwylio, rhannu a gwneud sylwade am y sioe ffasiwn.” Mynegodd Gary, “Chi werth y byd yn grwn. Fe fydd Wyn a Viv nol mis nesa.”

Mae’r ffaith bod cymaint wedi gwylio’r fideo yn rhyfeddol, ac wrth weithio ar ail gynhyrchiad mae Gary’n gwahodd cwmnïoedd i hysbysebu arno er mwyn cyrraedd cynulleidfa dda.

Ychwanegodd Gary, “Ryn ni ar waith yn neud y dilyniant i Sioe Ffasiwn a Lamb Roast Alltyblaca. ‘Tair Sir o Sbort gyda Wyn a Viv’, fydd teitl yr un nesa – rhyw fath o gemau Olympaidd amgen sy’n mynd â ni rownd Sir Benfro, Sir Gâr, a Cheredigion.”

“Ma’r cynnwys yn wahanol, ond ma’r fformat yr un fath – dau glown yn gwneud sylwadau hurt, a chwpwl o hysbysebion ffug mewn na i dorri pethe lan.”

“Ar ôl llwyddiant y cynta, ryn ni’n awyddus i whilo am noddwyr hefyd…y bwriad yw rhoi hysbysebion ‘genuine’ mewn ynghanol yr eitem…ond yn yr un math o steil â’r rhai ffug. Gyda dros 47 mil o wylwyr yn barod, ryn ni wedi dybli ffigyrau gwylio Heno, unrhyw noson o’r wythnos (ac wedi cal mwy o wylwyr na Phobol y Cwm), wedyn falle bod hwn yn gyfle da i gwmnie cal bach o sylw i’w cynnyrch / gwasanaeth.”

Os ydych chi’n gwybod am rywun fyddai’n hoffi’r syniad o gael hysbyseb yng nghanol fideo nesaf Wyn a Viv, cysylltwch â Gary Slaymaker drwy dudalen facebook Slaycorp. “Bydde fe jyst yn neis i dalu bach o cash i’r bois am eu gwaith fan hyn!”