Addasu er mwyn goroesi’n lleol

Sut mae bobl leol wedi addasu yn ystod cyfnod y clo mawr?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Teulu Mark Lane.

Yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc, ceir hanesion bobl leol yn ystod cyfnod y clo mawr ac unigolion yn cofnodi sut yr aethant ati i addasu yn ystod y cyfyngiadau.

Mae Hannah James o Bopty Mark Lane yn son am sut yr aethant ati i gadw drws y siop ar agor er gwaethaf y ffaith bod y caffi wedi gorfod cau.  “Mae’r siop ar agor Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 8.30-3.00 ac yn gwerthu bara a rolls ffres, cacennau, brechdanau a phrydiau twym yn ddyddiol.” Dywedodd Hannah.

Elin a’r teulu.

“Wrth fod yn fusnes teulu, rydw i a fy mrawd ac un aelod o’r staff yn gweithio’n y siop rhan fwyaf o’r wythnos gyda fy nhad fel y pobydd, fy modryb yn coginio a mamgu a tadcu yn dal i helpu tu ôl i’r llenni. Er mwyn cadw mamgu a tadcu yn ddiogel, maent yn cadw i ffwrdd o’r siop ac yn helpu gydag archebion yn y popty.”

Ysgrifennodd Elin Jones o Gwmann o safbwynt personol iddi i yn y gwaith ac yn y cartref.  “Roedd y cyfnod a ddaeth yn syth ar ôl datganiad y cyfnod clo yn gyfnod ansicr i ni gyd. Y merched yn gweld eisiau ffrindiau, cariadon, a’r rhyddid i fynd allan. Daeth siom i blith pob yr un ohonom yn ein tro, am bethau oedd wedi eu trefnu, prawf gyrru, nosweithiau allan, dathliadau penblwydd, teithiau i Alacante, i sgio ac i Nice. Ond… erbyn hyn, cytunwn nad oeddent yn bwysig. Yn eu lle, daeth cyfnod mwy hamddenol, ymarfer corff (efallai dim cymaint i mi!), peintio, garddio, cwisiau ffrindiau, dathliadau ar lein, cyfarfodydd Teams a chlapio i staff GIG. Daeth gyda hyn heriau newydd, arholiadau, gwaith a seminarau ar lein, pawb yn gweithio o adre – a’r wê yn peri yn fwy o sialens nag erioed!”

Ann mewn oedfa ar Zoom.

Canolbwyntio ar y profiadau newydd oedd Ann Bowen Morgan o Lanbed a’r ffaith ei bod wedi gorfod ymgyfarwyddo â defnyddio technoleg newydd. “Pan ddechreuwyd y cyfnod clo nôl ym mis Mawrth a’n dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn cau i lawr yn y canolfannau- dyna ni Amen meddyliais! Byddai’n bosib anfon e-bost ac ambell lun ar y sgrin ond na daeth defnydd o Zoom! Roedd yn antur mawr i ddechrau ac i amatur fel fi yn gyffrous iawn. Roedd gweld lluniau aelodau’r dosbarthiadau o fy mlaen yn fendigedig a phawb yn hapus iawn. (Er ddim cystal â dysgu wyneb yn wyneb). Daethpwyd i ben â rheoli pwy oedd yn siarad, trafod ac addysgu a llawer iawn o chwerthin!. Erbyn hyn gyda ‘ystafelloedd rhannu’ maent yn gallu siarad gyda grŵp neu bartner. Rhaid cyfaddef nad oeddwn yn dda iawn ar y dechrau ond erbyn hyn mae reolaeth gwell gennyf.”

Sara.

Mae Sara Thomas o gwmni T L Thomas a’i fab, Llanllwni yn son am benderfyniadau busnes anodd. “Fel cwmni teuluol, y peth mwyaf synhwyrol oeddem yn teimlo y gallwn ei wneud er mwyn lleihau lledaenu’r feirws a sicrhau iechyd a diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid oedd i gau’r drysau. Bu’r ddwy fusnes ynghau o ddiwedd mis Mawrth nes ddiwedd mis Ebrill. Dyma’r tro cyntaf yn ein hanes y bu rhaid i ni gau ein drysau. Erbyn hyn rydym wedi ail-agor ond wedi gorfod addasu tipyn o’n hymarferion gweithio i gydfynd gyda chanllawiau’r Llywodraeth.”

“Ar hyn o bryd does neb yn cael dod mewn i’r siop na’r iard os nag oes gyda nhw slot i gasglu eu nwyddau. Rydym yn cymryd yr holl archebion dros y ffôn, ebost neu dros neges Facebook. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn dipyn o help i ni yn ystod yr adeg yma er mwyn sicrhau ein bod yn gallu hysbysebu ein nwyddau gan fod neb yn gallu eu gweld ac hefyd i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cysylltu mewn modd hawdd ac effeithlon.”

Teulu Gwarffynnon.

A beth am fyd amaeth a thwristiaeth yn lleol?  Dyma ychydig oedd gan deulu Gwarffynnon, Silian i’w rannu: “Mae’r cyfnod diweddar wedi dod â’i sialensau i Gwarffynnon. Y mwyaf yw pris y llaeth. Wrth i’r sector arlwyo gau dros nos, diflannodd canran fawr o’r farchnad laeth ac o ganlyniad disgynodd pris y llaeth. Mae’n anghredadwy bod ffermwyr yn gorfod taflu llaeth tra bod archfarchnadoedd heb gyflenwad digonol o laeth ar eu silffoedd ers misoedd. Wrth lwc, mae’r tancr llaeth wedi cyrraedd Gwarffynnon bob bore.”

“Wrth gwrs, does dim twrisiaid wedi bod i’r bythynnod, a hynny dros gyfnod prysur o’r flwyddyn. Fel arfer, mae’n hyfryd croesawu twristiaid i’r fferm ac i’r ardal, ac mae’n ddefod bleserus cael addysgu’r unigolion am y broses o gynhyrchu bwyd ac am draddodiadau Cymreig a’r iaith Gymraeg. Ond nid dyma’r drefn eleni. Erbyn hyn, rydym wedi cael gwybod y bydd y diwydiant twristiaid yn cael ail-ddechrau. Bydd rhaid gosod rheolau llym o ran ble gallant grwydro a pha gyfleusterau cânt ddefnyddio.”

Dafydd.

Ac i Dafydd Lewis a chwmni W D Lewis a’i fab fe darodd y Coronafeirws ar adeg prysura’r flwyddyn. “Gyda’r newyddion bod rhaid i siopau gau ac i bobl weithio o’r cartref, roedd dyletswydd arnon ni i barhau i gyflenwi bwydydd anifeiliaid a gwrtaith. Roedd hyn yn rhoi ein staff ni o dan bwysau ac yn gallu achosi gwrthdaro o fewn y cartref.  Ond galla i ond canmol y staff gweithgar sydd gyda ni a diolch i’r teuluoedd a’r cwsmeriaid am eu cefnogaeth.”

“Erbyn hyn, rydym wedi ail agor y ddwy siop gyda system un ffordd, arwyddion niferus a sgrîn blastig wrth y cownter gan ddechrau ymgyfarwyddo â’r normalrwydd newydd.  Rydym yn ffodus bod ein busnes wedi ei leoli mewn ardal wledig lle nad yw’r feirws wedi taro’n galed hyd yn hyn, felly rydym yn falch ein bod wedi gallu parhau i wasanaethu amaethwyr yr ardal sy’n gweithio’n galed i fwydo’r genedl.”

Er mwyn darllen yr hanesion yn llawn, lawrlwythwch gopi o rifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc oddi ar y wefan.