Aduniad Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant Llanbed 2020

Profost Campws Llanbed yn egluro beth yw gweledigaeth a chynlluniau’r brifysgol yn lleol.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Cynhaliwyd yr aduniad trwy Zoom dydd Sadwrn 18fed Gorffennaf. Trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau yn cynnwys cyflwyniad gan Dr Alexander Scott, ‘Rethinking University Histories: Slavery, Abolition and the Origins of St David’s College, Lampeter’. Hefyd cyflwyniad gan Gwilym Dyfri Jones (Profost) yn trafod datblygiadau diweddar a chynlluniau’r dyfodol ar gyfer Campws Llanbed. Yn gyn-fyfyriwr sy’n byw yn Llanbed, ymunais yng nghwmni 24 arall ar gyfer cyflwyniad rhithiol dadlennol Gwilym Dyfri Jones.

Rhodri Thomas (Swyddog Alumni Campws Llanbed) gyflwynodd Gwilym Dyfri Jones sy’n frodor o Aberystwyth a’i wreiddiau (ochr ei fam) yn ardal Tregaron. Penodwyd yn Brofost Campws Llanbed a Champws Caerfyrddin ym Medi 2019 ac ymhlith ei gyfrifoldebau mae’r Gymraeg a Dwyieithrwydd yn y Brifysgol. Bu cyn hynny’n Ddeon Addysg a Hyfforddiant Campws Caerfyrddin ac yn ymwneud gyda datblygiad yr Egin a chartref newydd S4C. Disgrifiodd ei swydd fel Profost yn ddolen gyswllt allweddol gyda staff a myfyrwyr a’r ‘bont’ sy’n cysylltu’r Brifysgol gyda chymunedau lleol trefi Llanbed a Chaerfyrddin. Eglurodd ei bod yn swydd gyffrous a heriol gyda digon o amrywiaeth.

Cyfeiriodd at y brif flaenoriaeth sy’n llywio ei swydd. Yn gyntaf, yr ymdrechion i ddiogelu Campws Llanbed trwy sefydlu Cynllun Datblygu ar gyfer y deng mlynedd nesaf. Eglurodd ei bod yn bwysig bod y cynllun yn cynrychioli safbwyntiau pawb, yn staff ac yn fyfyrwyr ynghyd â’r dref yn Gyngor Tref, busnesau, sefydliadau ac unigolion.

Yn ail, pwysigrwydd y bartneriaeth rhwng y Brifysgol a Llanbed. Y mae’r Campws yr un mor ddibynnol ar y dref, ei thrigolion a’i sefydliadau ag yw Llanbed ar y Brifysgol i’w chynnal yn economaidd, yn addysgiadol ac yn ddiwylliannol.

Yn drydydd, ymrwymiad y Brifysgol i barhau i fuddsoddi yng Nghampws Llanbed. Cyfeiriodd at ail adeiladu Adeilad Caergaint a’r buddsoddiad presennol yn adnewyddu rhannau hanesyddol o Adeilad Dewi Sant. Cyfeiriodd hefyd at ymdrechion y Brifysgol i ehangu’r dewis o gyrsiau a’r cydweithio presennol sydd rhyngddi a sefydliadau eraill yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cydnabuwyd pwysigrwydd y pynciau dyneiddiol presennol yn y dewis ond o fedru cynnig pynciau eraill, byddai’n ehangu’n fwy fyth apêl Llanbed i fyfyrwyr.

Eglurodd bod dyfodol disglair a chadarnhaol i Gampws Llanbed fydd yn 2022 yn dathlu dau ganmlwyddiant ers ei sefydlu. Mae’n bwysig bod y Campws yn parhau i esblygu, newid a ffynnu er lles y Brifysgol, Llanbed, Ceredigion a Chanolbarth Cymru. Cyfeiriodd at eiriau enwog John F. Kennedy mewn araith yn Frankfurt, Yr Almaen ym Mehefin 1963 i bwysleisio’r pwynt: “Change is the law of life. And those who look only to the past or the present are certain to miss the future.”

Dywedodd bod rhaid parhau i fuddsoddi yn yr isadeiledd, yn yr adeiladau a’r cyfleusterau. Mae sawl neuadd breswyl i’w hadnewyddu a hefyd y Pafiliwn Criced a Chaeau Chwarae Pontfaen. Mae’n hanfodol parhau i ddatblygu’r dewis o gyrsiau a chyfeiriodd at y partneriaethau sydd eisoes yn bodoli rhwng y Brifysgol a sefydliadau rhyngwladol a hefyd yn lleol fel Grŵp Paramaethu Llanbed.

Canlyniad un bartneriaeth leol ddiweddar fu sefydlu Hwb Cydnerthedd Llanbed sy’n ddatblygiad allweddol yng Nghynllun Datblygu’r Campws. Mae’n cynnig nifer o gyfloed i gydweithio gyda sefydliadau eraill yn lleol fel y Cyngor Tref, Trawsnewid Llanbed a busnesau’r dref yn ogystal â Chyngor Sir Ceredigion a datblygiadau fel y Cynllun Trawsnewid Bywydau.

Dywedodd bod y cynllun hwn dan arweiniad y Cyngor Tref, Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol a’r gwleidyddion ymhlith eraill yn rhoi’r cyfle i’r Brifysgol gyfrannu tuag at ddatblygiad cyffrous yn Llanbed. Dyma’r cynllun fydd yn datblygu Canolfan ar y Campws i hyrwyddo gwaith Hwb Cydnerthedd Llanbed. Byddai’n darparu cyrsiau yn trafod cynaladwyedd, diogelu’r amgylchedd a defnyddio a diogelu adnoddau lleol.

Fe’i gelwir yn Ganolfan Tir Glas a’r bwriad cychwynnol yw ei defnyddio i adeiladu ar yr hyn gynigir yn barod yn Llanbed a chryfhau ‘brand’ y Campws er budd y dref a’r economi leol.

Bydd yn ganolfan hyfforddi dwyieithog ar gyfer israddedigion a graddedigion gan ymateb nid yn unig i ofynion myfyrwyr ond hefyd cyflogwyr lleol mewn meysydd penodol megis busnes, amaethyddiaeth, cynhyrchu bwydydd, twristiaeth, lletygarwch a menter. Bydd yn ymateb hefyd i’r angen am hyfforddiant sy’n berthnasol i gymunedau gwledig a’r heriau amlinellir mewn adroddiadau megis Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Gwireddir y weledigaeth gyda strategaeth yn seiliedig ar dair sylfaen sef:

  1. Sefydlu Canolfan Cydnerth a Harmoni Cymru
  2. Datblygu Canolfan ar gyfer Menter Wledig
  3. Sefydlu Canolfan Gastronomeg Genedlaethol yn debyg i Brifysgol y Gwyddorau Gastronomig yn Pollenzo, Yr Eidal.

Eglurodd bod cais ariannol wedi ei gymeradwyo’n ddiweddar gan Gyngor Sir Ceredigion i benodi Swyddog Ymgysylltu. Gobeithir penodi’r swyddog erbyn yr Hydref i ddechrau’r gwaith o sefydlu rhwydweithiau tros Ganolbarth Cymru yn hyrwyddo amcanion a gwaith Canolfan Tir Glas. Gobaith y Brifysgol yw bydd hynny’n cynyddu’r galw am ddarparu cyrsiau newydd fydd hefyd yn cryfhau apêl rhai o gyrsiau presennol y Brifysgol yn Llanbed. Bydd hynny’n cynnig cyfeiriad newydd i’r Campws, yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y Campws a’r dref ac yn cyfrannu tuag at weithredu trwy’r Brifysgol rhai o amcanion llywodraethol yn lleol a chenedlaethol yn Llanbed.

Daeth â’i gyflwyniad i ben yn cyfeirio at effeithiau sefyllfa Covid-19 ar waith y Brifysgol megis llawer mwy o ddysgu myfyrwyr ar-lein, y Campws tan glo a’r newidiadau i Seremonïau Graddio 2020.

Diolchodd i Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Llanbed am drefnu’r diwrnod a rhoi’r cyfle iddo gyflwyno rhai o gynlluniau cyffrous y Brifysgol yn Llanbed. Bu cyfle i holi cwestiynau i gloi sesiwn difyr a dadlennol gan Gwilym Dyfri Jones.