Mae angen Diffoddwyr Tân Ar Alwad newydd ar Lanbed

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rectriwtio Diffoddwyr Tân yn lleol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llun gan Shirin Thomas.

Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewn Cymru swyddi ar alwad gwag yng Ngorsaf Dân Llanbed.

A ydych chi’n byw neu’n gweithio o fewn 8-10 munud i Orsaf Dân Llanbed? Os ydych chi, gallech chi fod yn ddiffoddwr tân ar alwad.

Mae diffoddwyr tân ar alwad yn aml wedi dewis gyrfa y tu allan i’r gwasanaeth tân, ond maent hefyd yn dymuno gwasanaethu eu cymuned fel diffoddwr tân, yn barod i ymateb i argyfyngau, atal digwyddiadau tân ac achub rhag digwydd ac amddiffyn pobl ac eiddo yn yr ardal.

Dywed Chris Davies QFSM, Prif Swyddog Tân “Mae Diffoddwyr Tân ar alwad yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith gwasanaethau brys.”

Mae Diffoddwyr Tân ar alwad Llanbed yn aelodau gwerthfawr ac uchel eu parch yn y gymuned. Mae llawer o ddiffoddwyr tân Llanbed wedi eu magu yn lleol ac mae hyn yn ffordd iddynt roi rhywbeth yn ôl i gymdeithas. Yn ogystal â byw neu weithio yn y gymuned y maen nhw’n rhan ohoni, maent yn ei gwarchod hefyd.

Lleolir Gorsaf Dân Llanbed ar y Cwmins sy’n cynnwys un Rheolwr Gwylfa ar alwad, pump Rheolwr Criw ar alwad ac 16 Diffoddwr Tân ar alwad yn gweithio gyda Phwmp Achub (Injan Dân), Pwmp Achub Gwledig a Cherbyd Gyriant 4-olwyn.

Mae diffoddwyr tân Llanbed yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â’r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn y gymuned leol.

Mae gan ardal Llanbed boblogaeth o ryw 11,406 ac mae’r orsaf yn darparu ymateb brys ar gyfer y dref ei hun a’r cymunedau cyfagos o fewn Ardal Reoli Sirol Ceredigion y gwasanaeth sy’n cynnwys adeiladau risg uchel yn y brifysgol a chartrefi henoed.

Os allech chi fod yn ddiffoddwr tân ar alwad, beth am wneud adduned blwyddyn newydd a chysylltu â’r tîm recriwtio ar 0370 6060 699?  Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.