Anrhydeddu Pencampwraig y Peli, Gog Gweithgar a Chloncen Brysur.

Tair menyw leol i’w hurddo i Wisg Las yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Er bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi’i gohirio am flwyddyn, mae’r Orsedd wedi penderfynu cyhoeddi enwau’r rheiny a oedd i’w hanrhydeddu ar y Maes yn Nhregaron eleni.

Danfonwn ein llongyfarchion gwresog i dair menyw haeddiannol o’r ardal sef Anwen Butten, Ann Bowen Morgan a Mary Davies, a urddir i’r wisg las.

Bowls sy’n mynd â bryd Anwen Butten, Cellan, ac fe’i hanrhydeddir am ei chyfraniad i’r gamp ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus yn cystadlu ar lefel fyd-eang, mae Anwen bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi, ac wedi’i dewis yn aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad y tro nesaf. Anwen oedd yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Llanbed eleni.  Yn ogystal â’i llwyddiant ym myd y campau, mae gan Anwen yrfa lwyddiannus fel nyrs arbenigol cancr y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Yn wreiddiol o’r Rhyl, mae Ann Bowen Morgan yn byw yn Llanbed ers bron i ddegawd, ac mae’n rhan ganolog o fywyd y dref. Mae’n chwarae rhan flaenllaw mewn pob math o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, gan hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd arni. Mae’n diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedi gweithio’n ddygn er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhan o’r gymuned leol. Yn gyn Faer Llanbed, bu’n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu Gorymdaith Gŵyl Ddewi yn y dref, ac mae’n ymroddgar i brosiectau fel y Pwyllgor Croesawu Ffoaduriaid sy’n cefnogi teuluoedd o Syria sy’n byw yn lleol.  Mae’n weithgar yng Nghapel Noddfa, yn aelod o Gôr Corisma ac yn cynorthwyo gyda Phapur Bro Clonc.

Nid gormodiaith fyddai dweud y byddai llawer o weithgareddau Cymraeg ardal Llanbedr Pont Steffan yn dod i stop heb gyfraniad Mary Davies, Dre-fach, Llanybydder. Mae wedi gweithio’n ddiflino dros fudiadau a digwyddiadau – nid yn ysbeidiol ond gyda dyfalbarhad a dycnwch – dros ddegawdau.  Bu Mary’n ymwneud â Phapur Bro Clonc ers ei sefydlu ac yn ysgrifennydd ar y papur ers blynyddoedd.  Mae hefyd wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant eisteddfodau lleol a chenedlaethol yn yr ardal. Mae’i chyfraniad i fudiadau lleol, gan gynnwys y Ffermwyr Ifanc, yr Urdd, ac Undodiaid y Smotyn Du, wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd. Hyd yn oed o ystyried bod gweithwyr caled ym mhob bro, mae cyfraniad Mary Davies yn eithriadol.

Y bwriad yw sicrhau ein bod yn gallu cyd-ddathlu eu llwyddiant a’u hanrhydedd ac edrych ymlaen at gyfnod pan allwn ddod ynghyd yn ddiogel er mwyn eu hurddo yn y ffordd draddodiadol ac urddasol y flwyddyn nesaf.

Mae’r anrhydeddau, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.  Yr enwau eraill ydy Cledwyn Ashford, Wrecsam; Jeff Davies, Y Fenni; Glan Davies, Aberystwyth; Cyril Evans, Tregaron; Anne Gwynne, Tregaron; Ronan Hirrien, Llydaw; Arfon Hughes, Dinas Mawddwy; Ruth Hussey, Lerpwl; Llŷr James, Caerfyrddin; John Milwyn Jarman, Penarth; Siôn Jobbins, Aberystwyth; Janet Mair Jones, Pencader; Esyllt Llwyd, Llanrug; Begotxu Olaizola, Gwlad y Basg; Glyn Powell, Pontsenni; Catrin Stevens, Aberaeron; John Thomas, Cwm Tawe a Clive Wolfendale, Llandrillo yn Rhos.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd. Urddir y canlynol i’r Wisg Werdd: Deian Creunant, Aberystwyth; Anthony Evans, Caerdydd; Rhiannon Evans, Blaenpennal; Angharad Fychan, Aberystwyth; Robat Gruffudd, Tal-y-bont; Jeffrey Howard, Caerdydd; Elin Haf Gruffydd Jones, Aberystwyth; Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn; Helgard Krause, Aberaeron; Emyr Llywelyn, Ffostrasol; Huw Rhys-Evans, Harrow; Carlo Rizzi, Penarth; Geraint Roberts, Caerfyrddin; Eilir Rowlands, Sarnau a Delwyn Siôn, Caerdydd.

Y bwriad yw cynnal y seremonïau Urddo ar Faes yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf. Gan fod y broses wedi’i chwblhau cyn y cyfnodcloi, ni ail-agorir enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, a bydd enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn agor ymhen y flwyddyn.

1 sylw

Ann Bowen Morgan
Ann Bowen Morgan

Diolch Dylan am dy longyfarchiadau a sylwadau ardderchog fel arfer a llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu hanrhydeddu.

Mae’r sylwadau wedi cau.