Ardal Clonc yn codi arian i weithwyr allweddol

Cerdded, rhedeg, seiclo, a hyd yn oed rhwyfo i gefnogi gweithwyr allweddol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Rhythwyn

Rhythwyn Evans – Llun Just Giving

Oherwydd argyfwng y coronafeirws mae pobol ar draws y wlad wedi bod yn codi arian i’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn cefnogi gweithwyr allweddol sy’n gofalu am gleifion COVID-19.

Yma, mae golwg360 yn edrych nôl ar straeon rhai o’r bobol yn yr ardal sydd wedi bod yn brysur yn codi arian dros yr wythnosau diwethaf.

 

Rhythwyn yn codi dros £37,000

I nodi ei ben-blwydd yn 91 cerddodd Rhythwyn Evans o Silian o amgylch ei gartref 91 o weithiau gan godi dros £37,000 tuag at Apêl Hywel Dda

Roedd wedi ei ysbrydoli gan Gapten Tom Moore, ac yn awyddus i gefnogi ei fwrdd iechyd lleol ac Elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy’n gofalu am gleifion COVID-19.

‘Rhedeg i Paris’

Mae CFfI Pontsiân bellach wedi codi dros £8,000 ar gyfer unedau gofal dwys ysbytai Glangwili a Bronglais trwy deithio’r holl ffordd o Bontsiân i Baris ac yn ôl heb adael eu cartrefi!

Targed gwreiddiol y clwb oedd teithio 218 o filltiroedd o Gaerdydd i Gaergybi, ond chwalwyd y targed hwnnw a llwyddodd aelodau a ffrindiau’r clwb gerdded, rhedeg, seiclo – ac hyd yn oed rhwyfo cyfanswm o 1117.52 o filltiroedd.

JOG OFF CORONA!

Dim ond un gair sydd ar ôl i ddweud – DIOLCH??Cofiwch gyfrannu: https://www.justgiving.com/crowdfunding/teleri-evans?utm_term=89qyvNmqMCffi Ceredigion Ceredigion YfcCFfI Cymru Wales YFCNational Federation of Young Farmers' ClubsBBC Radio CymruHywel Dda Health CharitiesHywel Dda Health Board

Posted by CFfI Pontsian on Tuesday, 14 April 2020

Clwb Rygbi Llambed

Daeth y tymor rygbi i ben yn gynnar yng Nghymru oherwydd argyfwng y coronafeirws ac felly mae Clwb Rygbi Llambed wedi penderfynu rhedeg 4000 o filltiroedd i godi £1500 i Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd Daryl Davies, capten tîm Llanbed:

“Dechreuon ni’r ymdrech er mwyn dangos ein diolchgarwch at bawb sydd yn gweithio mor galed ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, ac i gadw’r tîm yn ffit ac yn unedig yn ystod yr amser anghyffredin yma.”

“Yn go gloi roedd hi’n amlwg bod cymuned ehangach y clwb yn eisiau cyfrannu, ac mae wedi bod yn anhygoel gweld y milltiroedd yn neidio i fyny.

“Ein gobaith nawr yw i gyrraedd ein targed ariannol.”

Cerdded Cymru

Mae criw o ffrindiau wedi penderfynu gwisgo eu hesgidiau cerdded a chymryd rhan yn y sialens ‘Cerdded Cymru’ i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru gan gerdded 500 milltir rhwng yr Ebrill 20 a Mai 21.

Ar ôl i ddigwyddiadau codi arian eraill orfod cael eu gohirio oherwydd y coronafeirws mae’r Ambiwlans Awyr wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr arian sydd yn cael i godi iddynt.

Yn ôl Gwawr Bowen mae’r sialens yn gyfle i “chwarae rhan fach bositif yn yr amser anodd yma.”

 

Merched Llambed yn ‘Cerdded Cymru’

Gwawr Bowen

Cyfanswm o 500 milltir er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

 

Oes rhagor o bobol wedi bod yn codi arian yn yr ardal? Rhowch wybod yn y sylwadau isod ?