Roeddwn wedi nodi yn fy nyddiadur ar ddydd Sul 12fed Awst i mi gysgu tan 11.30 o’r gloch. Dim ymarfer, dim dyletswydd, dim gwerthu Clonc na mynychu cyngherddau hwyr! Y cyfan drosodd. Ond mynd fu’n rhaid yn y prynhawn, nôl i’r Maes Carafanau – i gasglu sbwriel.
Am 2.30 o’r gloch cynhaliwyd Cymanfa’r Plant yn y Pafiliwn. Yr arweinyddion oedd Elonwy Davies ac Eirian Jones gydag Hefin Owen wrth yr organ.
Yn rhagair rhaglen Cymanfa’r Plant, ysgrifennodd Twynog Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Cerdd:
“Penderfyniad unfrydol Pwyllgor Cerdd y Brifwyl eleni oedd trefnu Cymanfa Ganu i’r Plant ar y prynhawn Sul olaf. Yn bersonol, teimlaf y dylai hon gael ei chynnal yn flynyddol er mwyn i blant y fro deimlo yn rhan o’r Eisteddfod.”
Wedyn am 8 o’r gloch yr hwyr, cynhaliwyd y brif Gymanfa Ganu gyda Twynog Davies a Delyth Hopkins Evans yn arwain ac Eirian Jones wrth yr organ. Yn ei ragair yn rhaglen y Gymanfa Ganu, ysgrifennodd Twynog:
“Anodd fyddai meddwl am yr Ŵyl Genedlaethol heb y Gymanfa Ganu. Dyma uchafbwynt pwrpasol i weithgareddau’r wythnos a gwahoddiad i bawb o bob enwad i ddod at ei gilydd i ganu clod i Dduw. Croesewir chwi i ardal sydd yn gyfoethog ei diwylliant, lle mae’r Gymanfa Ganu yn dal i chwarae rhan bwysig yn ein traddodiad cerddorol.”
A dyna ni. Wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro wedi dod i’w therfyn. Bu’n eisteddfod lwyddiannus ar sawl lefel.
Adroddwyd ym mhapur Y Cymro 14eg Awst:
“Gwerthwyd pob copi o’r cylchgrawn Lol yn Eisteddfod Llambed ac mae cyfarwyddwr y wasg, Robat Gruffudd yn priodoli’r llwyddiant i brotestiadau Hawliau i Fenywod.
Argraffwyd 3,000 o gopïau o Lol eleni, mwy nag erioed o’r blaen, a dywed Y Lolfa mai wythnos yr Eisteddfod eleni fu’r mwyaf llwyddiannus yn hanes y cylchgrawn.”
Yng ngholofn ‘Popian’ Papur Bro Clonc, ysgrifennodd Iona James am adloniant i’r ifanc yn ystod yr wythnos:
“Doedd Twrw Tanllyd ddim yn llwyddiant arbennig, mae’n debyg. Mae gan bobl fwy o ddiddordeb mewn gwario eu tair punt ar bedwar peint ychwanegol yn y Black Lion na chlywed pop Cymraeg.
Felly Bedlam yn arbennig a’r nosweithiau gwerin sy’n aros yn y cof gen i o’r Steddfod yn fwy na’r dawnsfeydd pop.”
Dyma a ysgrifennodd Gwyn Derfel yng nghylchgrawn pop Sgrech Nadolig 1984:
Mae’r “Byd Pop Cymraeg” yn ddyledus i’r Eisteddfod Genedlaethol am ysgogi nifer o ieuenctid bro’r Brifwyl i fynd ati i ffurfio grŵp. Gwelwyd hyn yn Llanbed eleni, pan gododd nifer o grwpiau megis “Coryn Gwyllt”, “Dolur Rhydd” a’r “Cathod Aur” yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl. Mae’r tri grŵp yma dal i fodoli, ac maent yn ennill cefnogaeth ieuenctid eu hardal drwy berfformio’n aml.
Darlledwyd yr eisteddfod ar S4C, Radio Cymru ac ar sianelau eraill. Yn ôl cylchgrawn Sbec, darlledwyd y seremonïau yn fyw ar S4C am 2.30 o’r gloch bob prynhawn gyda R Alun Evans yn sylwebu, rhaglen wedi ei recordio am 8 o’r gloch yr hwyr a thelediad byw o’r stiwdio ar y maes gyda Huw Llywelyn Davies yn bwrw golwg nôl dros gystadlaethau’r dydd bob nos am 8.45 o’r gloch tan 10.30.
Yng nghylchgrawn Y Faner 24ain Awst cafwyd gair o ganmoliaeth i’r cyfryngau gan W Vernon Howell, Caerdydd:
“Diolch o galon i griwiau’r BBC a HTV am ddod â gwledd yr Eisteddfod i’n haelwydydd yr wythnos ddiwethaf.”
Daeth cyfanswm o 141,000 o bobl i’r eisteddfod yn Llanbed. Er nad oedd cymaint â Llangefni yn 1983 sef 144,000, daeth mwy o bobl i’r brifwyl yn Llanbed nag aeth i Fachynlleth 1981 (122,000) ac Abertawe 1982 (133,000).
Adroddodd y Western Mail ar Ddydd Llun 13eg Awst bod presenoldeb uchel a thywydd da wedi torri colled ddisgwyliedig yr Eisteddfod i £20,000. Amcangyfrifwyd y byddai wedi bod yn £41,000. Roedd yr eisteddfod wedi costio £850,000 a gwnaed £172,000 o werthiant tocynnau. Ac oherwydd y tywydd da dywedodd y trefnydd y byddent yn arbed £8,000 gyda llai o waith trwsio niwed i’r caeau. Credwyd hefyd bod Sioe’r Tair Sir yng Nghaerfyrddin wedi cael effaith negyddol ar y niferoedd a ddaeth i Lanbed.
Ond ym Mhapur Bro Clonc yn ddiweddarach, cyhoeddwyd bod yr Eisteddfod yn yr ardal wedi gwneud elw o £21,793.
“Ar ddiwedd y dydd roedd cyfanswm y taliadau yn £826,501. Derbyniwyd £21,793 yn fwy na hynny! Swm y gall y sawl a fu’n weithgar gyda’r Ŵyl fod yn falch ohono.”
I’r cannoedd oedd wedi bod mor weithgar yn paratoi am yr Ŵyl a cheisio rhuthro o un digwyddiad i’r llall yn ystod yr wythnos fawr, roedd sylweddoli bod y cyfan ar ben yn deimlad rhyfedd iawn. Y raddol, difannodd y pafiliwn a’r pebyll o gaeau Pontfaen gan adael ond atgofion. Dyma a ysgrifennodd Margaret Jones yn y Cambrian News 2il Tachwedd:
“Bwlch ni ddangosai lle bu” yw llinell olaf awdl Madog T Gwynn Jones, a hwyrach bod teimlad tebyg i hyn yn meddiannu llawer ohonoch fu’n gweithio mor ddiwyd a hapus dros Eisteddfod Llanbed. Ond os oes hiraeth yna hefyd mae boddhad mawr o fod wedi cael gweld y cyfan yn mynd heibio mor llwyddiannus.
Cafwyd ‘Sgŵp!’ i godi’r galon ym Mhapur Bro Clonc:
“Gall ‘Clonc’ ddatgan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Lambed a’r fro yn y flwyddyn 2000. Penderfynwyd estyn yr ail wahoddiad hwn mewn cyfarfod cudd yn un o dafarndai’r dre ddydd Llun diwethaf.”
Ond ddigwyddodd hynny ddim, er i Lanbed groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1999.
Roedd cysgod y ddwy goron dal ar y brifwyl serch hynny, a gwneuthurwr y goron a gafodd ei gwrthod yn bygwth erlyn yr eisteddfod am ei gam arwain. Dywedodd Tony Lewis o Feirionnydd yn y Tivy Side ar y 10fed o Awst y byddai’n erlyn yr eisteddfod am £1,000. Ychwanegodd fod aelod o’r pwyllgor gwaith wedi archebu’r goron er nad oedd ganddo unrhyw beth yn ysgrifenedig.
Pwy a enillodd y wobr am werthu nifer fwyaf o Bapur Bro Clonc ar y Maes yn ystod yr wythnos?
“Rhaid rhoi clod arbennig i Dewi Jones, Cwmsychbant a werthodd 341 o gopïau gan ennill gwobr am y gwerthwr gorau, a’r brodyr Ifan a David Hargreaves, Llanwnnen a enillodd yr ail a’r drydedd wobr. Go lew chi bois!”
Ym mis Medi, ysgrifennodd Irene Williams, Cadeirydd Pwyllgor Llety a Chroeso lythyr at aelodau gweithgar y pwyllgor. Mae ei geiriau hi’n crynhoi’r croeso a estynnwyd i Gymru gan bobl weithgar leol.
“Erbyn hyn daethoch ‘nôl o’ch gwyliau wedi llwyr ddadflino gobeithio ar ôl y digwyddiad mwyaf mentrus a fu’n Llambed erioed. Ie Eisteddfod Genedlaethol sy’n rhan o hanes bellach, fel un lwyddiannus, gartrefol, hapus. Mae rhan helaeth o’r llwyddiant yn ddyledus i’r pwyllgor Llety a Chroeso, hynny yw – y chi.
Yr aelodau a fu wrthi yn gweithio’n gyson â phwyllgorau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac yna’r wythnos fawr ei hun, y miloedd cwpaneidiau te, y brechdanau, y bara brith a’r cacennau bach a baratowyd ac a roddwyd gyda chroeso ac wynebau hawddgar. Does dim rhyfedd iddynt fod wrth ddant pawb.
‘Rwy’n siwr y cytunwch â mi i gyd wrth roi diolch arbennig iawn, iawn i Eleri am drefniadau’r ceginau a fu mor hwylus drwy gydol yr amser o fore Sadwrn hyd ddiwedd y Gymanfa nos Sul. Yr oedd yna swm o arian dros ben, ond yn bwysicach na hynny oedd ymateb yr holl ymwelwyr cyson i’r awyrgylch hapus.
Hefyd i Henllys fel Is-lywydd am ei chyfraniad hithau ym mhob cyfarfod, ac yn arbennig yn y Babell ar y Maes drwy gydol yr wythnos megis deheulaw i’r Capten Hazel. Wel, mae ymennydd Hazel fel compiwter, fe wyddai hon am bob ystafell a gwely sbâr yn Llambed a’r holl ardaloedd. Bu’n brysur, bu’n amyneddgar, bu’n serchog, beth bynnag fyddai’r broblem, a daeth o hyd i le i bawb a ofynnai amdano. Nid ar chwarae bach mewn tref fechan ac ardal mor eang oedd cyflawni hyn oll. Nid tasg rwydd yw bod yn ysgrifenyddes llety i’r Genedlaethol lle bynnag y bo, ond cwblhawyd y cyfan yn Llambed yn ddidrafferth ac i’r ddwy yma mae’r clod.
Ie, diolch, diolch bob cam o’r ffordd i’r holl aelodau, gyda’n gilydd fe orffennwyd y dasg enfawr hon a phawb yn siarad â’i gilydd ar y diwedd. Yn wir, yng ngeiriau Trefnydd Eisteddfodau’r De, Y Parch J Idris Evans, “Bu hwn yn Bwyllgor Llety a Chroeso hapus dros ben o’r dechrau hyd y diwedd”.
Diolch am ymateb gwych i wragedd Llambed a’r fro.”
Wedi 36 o flynyddoedd, mae yna ddisgwyl mawr i weld y brifwyl nôl yn yr ardal. Bu llawer o weithgareddau’n lleol er mwyn codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni. Mae’n Ŵyl sydd wedi datblygu llawer ers 1984, ac ymhen blwyddyn arall gobeithio, y cawn estyn yr un croeso i Dregaron a chreu atgofion newydd.